Polisi Derbyn i Ysgolion 2026-27

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn nodi Trefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyferblwyddyn academaidd 2026/27.

Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgol 1998 yn neilltuo swyddogaethau i Awdurdodau Derbyn, Paneli Apêl a’r Fforwm Derbyn mewn perthynas â derbyn disgyblion i'r Ysgol.

Mae dyletswydd statudol ar bob un o'r cyrff hyn i weithredu yn unol â'r Côd Derbyn i Ysgolion a'r Côd Apelau Derbyn i Ysgolion.

Yn unol â’r Côd Derbyn Plant i Ysgol mae’r Awdurdod am gael barn yr holl bartïon perthnasol mewn perthynas â threfniadau a pholisi Derbyn Plant i Ysgolion yr Awdurdod.

Bydd y ‘Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2026/2027’ ar gael i rieni ym mis Hydref 2025, cyn y dyddiad ymgeisio yn cynnwys gwybodaeth bwysig am holl ysgolion y Sir, gan gynnwys y trefniadau derbyn cyhoeddedig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir unigol (h.y. ysgolion Ffydd).


Awdurdodau Derbyn

Rheolir y drefn o dderbyn plant i ysgolion gan Awdurdod Derbyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Gaerfyrddin.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru o flwyddyn academaidd 2026/27 bydd trefniant derbyn cydlynol yn cael ei weithredu ar gyfer yr holl ysgolion a leolir yn Sir Gaerfyrddin. Bydd pob cais ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn cael ei wneud drwy system ymgeisio ar-lein y Cyngor ynghyd ag Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir. Bydd y meini prawf yn cael eu pennu a’u gosod gan bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynorthwyo yn y broses ymgeisio ac yn cyhoeddi unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir unigol i
rieni. Bydd y broses Apeliadau yn aros gyda'r Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir unigol.

Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, corff llywodraethu pob ysgol sy'n pennu'r trefniadau derbyn, cyhoeddir y manylion yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni a gellir cael manylion amdanynt gan gorff llywodraethu priodol yr ysgol neu, Gyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru a Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaeth ar gyfer ysgolion Catholig yng Nghymru.

Awdurdodau Addysg Lleol cyfagos

O gofio natur ddaearyddol Sir Gaerfyrddin mae’n rhannu ffiniau gydag Awdurdodau Lleol eraill. Pe bai'r ysgol yr ydych eisiau i’ch plentyn fynd iddi fod mewn ardal Awdurdod arall, dylech gysylltu â’r Awdurdod hwnnw.


Nifer Derbyn Yr Ysgol – Terfyn Ar Nifer Y Disgyblion a Dderbynnir

Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn (ND) sy’n nodi a chyfyngu ar faint o ddisgyblion y gellir eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn yn yr ysgol. Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn y rhestr o ysgolion yn Atodiad A.

Pennwyd y ND ar gyfer pob ysgol trwy ddefnyddio’r fformiwla maint a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyfrifiad yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol (Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru –Cylchlythyr 021/2011) ac mae’n ymwneud ag arwynebedd ffisegol adeiladau’r ysgol, y math o gyfleusterau sydd yn yr ysgol, ystod oed a nifer y grwpiau blwyddyn yn yr ysgol.Gan fod y ND yn seiliedig ar allu’r ysgol i ddarparu lle a chyfleusterau addas ar gyfer disgyblion, ni ddylid mynd heibio’r terfyn hwnnw.

Mae’r ND yn berthnasol i’r grŵp oed y derbynnir y disgyblion iddo yn yr ysgol, ac mae’n gosod terfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn. Yn y flwyddyn dderbyn arferol rhaid i’r Awdurdod Derbyn dderbyn disgyblion hyd nes y cyrhaeddir y ND. Os yw nifer y ceisiadau a dderbynnir am lefydd mewn ysgol yn fwy na’r ND bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniodd yn unol â’r meini prawf ar gyfer goralw a nodir yn y ddogfen hon.

Mewn amgylchiadau o'r fath, efallai na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn yr ysgol o'u dewis.

Rhaid i lywodraethwyr ysgol a’r Awdurdod Lleol gadw golwg gyson ar y ND.


Dalgylchoedd

Mae’r Awdurdod yn cydnabod fod yna berthynas bwysig rhwng ysgol a’i chymuned. Oherwydd hynny, mae’r Awdurdod wedi dynodi ardal ddaearyddol benodedig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu sy’n cael ei alw’n ddalgylch yr ysgol.

Mae manylion dalgylch ysgol ar gael yn yr ysgol, ar wefan y Cyngor Sir neu oddi wrth yr Awdurdod Derbyn perthnasol.

Mae'n bosibl y gall dalgylch newid, fodd bynnag, lle cynigir newidiadau, byddai'r rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddynt gael eu gweithredu.

Nid yw byw yn nalgylch ysgol yn gwarantu lle yn yr ysgol, ond mae’n ffactor bwysig gan y bydd yn rhoi blaenoriaeth uwch i’r cais na cheisiadau gan unigolion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch.

Mae byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol hefyd yn bwysig gan fod hyn yn un o'r meini prawf allweddol wrth asesu a yw rhywun yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chludo plentyn o'r cartref i'r mysgol.

Cyn gwneud cais am le mewn ysgol mae’r Awdurdod yn eich cynghori’n gryf i gysylltu a thrafod mmaterion gyda’ch ysgol leol ac os yn bosib mynd i’w gweld fel eich bod yn gwybod am y cyfleusterau ma’r cyfleoedd allant eu cynnig.


Dosbarthiad Ysgolion

Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cydaddysgol yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer bechgyn a merched, ac oni nodir yn wahanol maent yn ysgolion dydd ac nid yn ysgolion preswyl. Oni nodir yn wahanol, mae ysgolion uwchradd yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cyfun.


Derbyn y Tu Allan I'r Grŵp Blwyddyn Cronolegol Arferol

Bydd ceisiadau am lefydd i ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn sy'n wahanol i’r grŵp blwyddyn arferol yn seiliedig ar ddyddiad geni disgybl yn cael eu hystyried fesul un, a lle y mae hynny’n berthnasol, yn ôl y meini prawf ar gyfer goralw a esbonnir yn y ddogfen hon.

Mae proses benodol ar gyfer ystyried y ceisiadau hyn a fydd yn cynnwys asesiad gan yr Awdurdod o amgylchiadau unigol pob achos. Nid yw hon yn broses awtomatig. Rhaid i rieni anfon e-bost at mderbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod cais ar gyfer disgybl y tu allan i'r grŵp oedran arferol. Gall rhieni mwneud cais am y polisi a'r canllawiau gan y Seicolegydd Addysg a Phlant drwy e-bostio'r cyfeiriad canlynol EPS@sirgar.gov.uk.

Os oes sail i ystyried cais am le mewn ysgol y tu allan i grŵp blwyddyn cronolegol plentyn, nid oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad os caiff y cais ei wrthod. Byddai hawl i apelio yn erbyn penderfyniad mar gyfer y grŵp blwyddyn cronolegol arferol yn cael ei gynnig pe bai angen.


Addysg yn y Cartref

Gall rhieni ddewis hefyd addysgu eu plant gartref. Yr enw ar hyn yw Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae’r penderfyniad i addysgu gartref yn fater y dylid meddwl yn ofalus amdano, gan ei fod yn golygu ymrwymiad, amser a chost sylweddol.

Os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r awdurdod, a cheisio arweiniad gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref drwy ffonio 01554 742369 neu drwy e-bostio eheenquries@sirgar.gov.uk.


Dewis Ysgol

Dewis y Rhieni

Mae gan rieni'r hawl i fynegi ffafriaeth ar gyfer eu dewis ysgol(ion), a chaiff hynny ei hystyried a chydymffurfir â hynny lle bynnag y bo modd. Nid yw mynegi ffafriaeth ynghylch ysgol benodol yn gwarantu lle yn yr ysgol honno. Cynghorir rhieni i ystyried 3 dewis wrth wneud cais am le mewn ysgol. Bydd y dewis a ffefrir fwyaf gan y rhiant yn cael ei gynnig. Dim ond os bydd dewis a ffafrir yn fwy yn aflwyddiannus y caiff dewis a ffafrir yn llai ei gynnig.

Er bod y rhan fwyaf o rieni yn danfon eu plentyn i’r ysgol dalgylch leol, mae gan rieni hawl i ddatgan blaenoriaeth i ysgolion gwahanol. Os ydych yn dymuno gwneud hynny argymhellir eich bod yn cysylltu â’r ysgol rydych yn meddwl amdani cyn gwneud dewis terfynol.

Os ydych yn dewis ysgol nad yw’n ysgol dalgylch leol ichi nac yr ysgol agosaf at eich cartref, dylech gofio fod rhai materion ymarferol y mae angen ichi eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniad.

Y cyntaf yw os nad yw’r plentyn yn mynd i’r ysgol dalgylch leol ichi neu’r ysgol agosaf at eich cartref a bod y penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar ddewis rhieni, fod y cyfrifoldeb a’r gost o gludo’r plenty i’r ysgol ac yn ôl yn gorwedd yn llwyr yn nwylo’r rhieni/gwarcheidwad.

Mae rhieni’n dweud fod hynny’n gallu bod yn broblem arbennig os oes ganddynt frawd neu chwaer iau nad yw’n cael ei dderbyn yn yr un ysgol gynradd.

Doeth felly yw ystyried a chynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn cyn gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i’r dalgylch.

Mae’r ail fater yn ymwneud â’r adeg pan mae disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd. Mae cael lle mewn ysgolion uwchradd yn seiliedig ar a ydy eich cyfeiriad cartref o fewn mdalgylch yr ysgol uwchradd. Nid yw’n seiliedig ar ba ysgol gynradd y buwyd ynddi. Pan mae disgybl mwedi bod i ysgol gynradd nad yw’n ysgol dalgylch benodedig leol iddynt mae mwy o debygrwydd na mfyddant yn gallu trosglwyddo i’r un ysgol uwchradd â’u cyfoedion a’u cyd-ddisgyblion.

Ni fydd y materion hyn yn berthnasol i lawer, ond gan eu bod wedi creu anawsterau i rieni yn y mgorffennol argymhellir eich bod yn eu hystyried ac yn cynllunio ar eu cyfer cyn gwneud eich dewism terfynol.

Bydd yr Awdurdod a llywodraethwyr ysgol yn cydymffurfio’n gyfreithlon ag unrhyw fynegiant o flaenoriaeth i ysgol benodol. Fel gyda phob cais bydd blaenoriaeth i ysgol benodol yn gorfod cael ei hystyried a’i hasesu yn rhan o’r broses dderbyn i sicrhau nad yw’r Awdurdod yn mynd heibio’r terfyn ar gyfer derbyn disgyblion i’r ysgol honno ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol.

 

Dewisiadau Rhieni – Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith

Gall rhiant ddatgan ffafriaeth i ysgol y mae'n dymuno i’w blentyn gael ei addysgu ynddi, nid oes raid i’r Awdurdod Derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwaharddiad diweddaraf os yw disgybl wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor.

Nid yw hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sydd â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), plant o dan oed ysgol gorfodol, plant a gafodd le ysgol yn ôl, neu a fyddai wedi cael lle yn ôl pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny, neu Blant sy'n Derbyn Gofal pan wneir y cais am le gan y rhiant corfforaethol.


Darparu Ar Gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae gan rai plant anghenion addysgol ychwanegol a/neu anabledd sy’n golygu fod angen gwneud darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer fel y gallant ddysgu’n effeithiol. Rhoddir blaenoriaeth i ddisgybl pan fydd ysgol wedi'i henwi yn rhan 2D o’i Gynllun Datblygu Unigol (CDU).


Trefniadau Derbyn Arferol

Yn y rhan hon o'r ddogfen nodir gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin o ran trefniadau derbyn arferol addysg Feithrin, Gynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.

 

 

 


Derbyniadau y tu allan i’r Trefniadau Derbyn Arferol (Trosglwyddo rhwng ysgolion)

Pan fydd ceisiadau yn cael eu gwneud y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol fel y gwelir yn rhan 10, caiff ceisiadau eu prosesu yn unol â'r trefniadau canlynol.

Mae newid ysgol yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid trafod y mater yn llawn gyda Phennaeth Ysgol bresennol y plentyn yn y lle cyntaf. Mae angen i'r rhiant/gwarcheidwad ystyried a yw symud ysgol er lles pennaf y plentyn. Bydd yr Adran Addysg a Phlant hefyd yn darparu cyngor os oes angen.

Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn dymuno symud plentyn o un ysgol i'r llall, rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein.

Nid yw bob amser yn bosibl cynnig lle i ddisgyblion mewn grŵp blwyddyn mewn ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gan y gallai'r holl leoedd sydd ar gael fod eisoes wedi'u dyrannu i ddisgyblion yn gynharach (h.y. ceisiadau cynharach i symud ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd/blynyddoedd academaidd blaenorol, neu yn ystod y cylch derbyn arferol).

Nid yw symud i ddalgylch ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol. Nid yw cael brawd neu chwaer sy'n cael cynnig lle mewn ysgol neu ei dderbyn i ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol i frodyr a chwiorydd eraill. Os oes nifer o blant o un aelwyd yn gwneud cais am symud i ysgol, efallai na fydd yn bosibl cynnig lle mewn ysgol i'r holl blant yn yr un ysgol os yw rhai grwpiau blwyddyn eisoes dros ei nifer derbyn.

Bydd ceisiadau sy'n dod i law cyn y Flwyddyn Academaidd newydd y mae'r cais ar ei chyfer yn cael eu prosesu yn Nhymor yr Haf cyn i'r Flwyddyn Academaidd ddechrau.

Dylid asesu ceisiadau sy'n dod i law yn ystod y Flwyddyn Academaidd a rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid am benderfyniad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag yw'r cynharaf) a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Caiff pob cais ei brosesu yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Os caiff lle ei gynnig, mae'n ofynnol i rieni dderbyn neu wrthod y cynnig o le. Ar ôl derbyn bydd lle yn yr ysgol yn cael ei gadw tan ddiwedd y tymor y disgwylir iddynt ddechrau.

Bydd y cynnig o le yn cael ei ddileu a'i ailddyrannu i ddisgyblion eraill os:

  • nad yw'r cynnig o le yn cael ei dderbyn o fewn y cyfnod amser a nodir ar y llythyr cynnig,
    neu
  • os nad yw'r plentyn yn dechrau erbyn diwedd y tymor y gwnaethpwyd cais ar ei gyfer.

Gofynnir i rieni sy'n dymuno gohirio eu dyddiad dechrau yn hirach nag un tymor, ailymgeisio am le mewn ysgol.

Bydd disgybl sy'n symud i'r sir yn cael ei roi ar gofrestr yr ysgol newydd yn Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad cychwyn a nodir ar yr e-bost cynnig.

Bydd angen gwirio ceisiadau ar gyfer Plant a nodwyd naill ai fel Plentyn sy'n Derbyn Gofal neu Blentyn a Oedd yn Arfer Derbyn Gofal; neu Gynllun Datblygu Unigol cyn eu prosesu. Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a'r polisïau derbyn a nodir yn y ddogfen hon. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn. Bydd yr e-bost penderfyniad hefyd yn nodi eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac yn esbonio’r broses apelio gan gynnwys y dyddiad cau i apelio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn y ddogfen hon.

Rhestrau aros ar gyfer ceisiadau y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol

Mae ceisiadau sydd wedi methu cael lle mewn ysgol a ddewisir yn cael eu cadw ar y rhestr aros tan ddiwrnod ysgol olaf y flwyddyn academaidd y gwnaethant gais amdani. Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros.


Gwneud Cais

Yr Angen i Wneud Cais

Mae’n rhaid i riant/gwarcheidwad gwblhau a chyflwyno cais ar-lein ar gyfer derbyn disgybl i ysgol.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn i riant/gwarcheidwad restru eu dewisiadau o ran ysgolion yn ôl y dewis 1af, yr 2il ddewis a’r 3ydd dewis.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am y Trefniadau Derbyn Arferol erbyn y dyddiadau cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon. Bydd unrhyw geisiadau dilynol sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn cael eu prosesu fel cais hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.

Bydd yr Awdurdod Derbyn yn rhoi gwybod i Rieni/Gwarcheidwaid ynghylch a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio yn unol â'r trefniadau derbyn. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau a wneir ar ran Plentyn sy'n Derbyn Gofal gan riant corfforaethol os mai’r Awdurdod yw’r rhiant corfforaethol a’r Awdurdod Derbyn.

Mae gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol wedi'u nodi yn rhan 11 o'r ddogfen hon. Ni all unrhyw Ysgol Gymunedol nac Ysgol Wirfoddol a Reolir awdurdodi derbyn disgybl.

 

Sut i Wneud Cais

Wedi i’r rhiant/gwarcheidwad benderfynu i ba ysgol y maent am anfon eu plentyn/plant dylent gyflwyno cais ar-lein drwy wefan y Cyngor:

Ewch i'r tudalennau gwe Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol

Argymhellir bod rhieni’n cysylltu â’u dewis ysgol yn uniongyrchol cyn gwneud cais. Bydd gan yr Ysgol fap o’i dalgylch a gall gynorthwyo rhieni trwy ddarparu gwybodaeth arall am yr ysgol a’r trefniadau derbyn.

 

Llenwi’r Ffurflen Gais

 

 


Meini Prawf Gor-alw ar gyfer Derbyn Disgyblion

Ar Gyfer Derbyn Disgyblion i Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd Cymunedol a Gwirfoddol a Reolir

Os cyflwynir mwy o geisiadau nag sydd o leoedd mewn grŵp blwyddyn penodol mewn ysgol, caiff lleoedd eu dyrannu gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:

  1. Plant sy’n Derbyn Gofal a phlant a oedd yn arfer Derbyn Gofal.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  3. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ond na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  4. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y bydd ganddynt frawd neu chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.
  5. Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch dynodedig yr ysgol ac na fydd ganddynt frawd na chwaer wedi'i gofrestru/chofrestru yno pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol honno.

D.S. Pan fo Cynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n enwi ysgol benodol ar gyfer Derbyn, mae’n rhaid datgan hynny’n glir ar y ffurflen gais derbyn i ysgolion. Bydd yr Awdurdod yn ymdrin â cheisiadau o’r fath cyn dyrannu unrhyw leoedd yn unol â’r meini prawf gor-alw am leoedd mewn ysgol fel y nodwyd uchod.


Ar gyfer ceisiadau amser llawn i blant 4 oed mewn ysgolion cynradd - ni ellir defnyddio'r ddarpariaeth Feithrin neu flynyddoedd cynnar ran-amser i blant 3 oed a ddyrannwyd yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lleoedd amser llawn mewn ysgol gynradd i blant 4 oed.

Ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd - Ni ellir defnyddio'r ysgol gynradd y mae disgybl yn ei mynychu yn faen prawf ar gyfer rhoi blaenoriaeth wrth ddyrannu lle mewn ysgol uwchradd.

 

Brodyr a Chwiorydd

Bydd plant yn cael eu hystyried yn frodyr neu’n chwiorydd os ydynt yn: Brawd neu chwaer lawn (plant sydd â dau riant yn gyffredin), hanner brawd neu hanner chwaer (plant sydd ag un rhiant yn gyffredin), brawd neu chwaer trwy fabwysiad neu faethiad, llysfrawd neu lyschwaer (plant sy'n perthyn oherwydd bod eu rhieni’n briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil), ond ym mhob achos mae'n rhaid i'r plant fod yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un cyfeiriad am y rhan fwyaf o'r wythnos.

Os oes preswyliaeth 50/50, cyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad sy'n derbyn budd-dal plant a ddefnyddir i brosesu’r cais a rhaid bod y brawd/chwaer ar y gofrestr ac yn mynychu'r ysgol pan fydd eich plenty yn dechrau yn yr ysgol. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth os bydd angen. Os na ddarperir tystiolaeth pan ofynnir i chi wneud hynny bydd eich cais yn cael ei ystyried fel un heb frawd neu chwaer yn yr ysgol.

 

Plant Genedigaeth Luosog

O dan unrhyw amgylchiadau pan fydd un lle ar gael a phan fydd y plant cymwys nesaf yn efeilliaid/tripledi bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y ddau / y ddwy / yr holl blant.

 

Y Meini Prawf o ran Pellter

Lle mae mwy o geisiadau na lleoedd ar gyfer ysgol, bydd y pellter o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddefnyddio er mwyn dyrannu blaenoriaeth ar gyfer lleoedd gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol yn cael blaenoriaeth a lle yn yr ysgol cyn y rhai sy'n byw ymhellach i ffwrdd. Mesurir y pellter gan ddefnyddio'r llwybr byrraf ar Google Maps.

Mesurir y pellter o gyfeiriad y cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr agosaf o fynedfa agosaf yr ysgol i'r pwynt mynediad agosaf i gyfeiriad y cartref ar briffordd neu lwybr troed cyhoeddus fel y mesurir gan Google Maps.

 

Hysbysiad am Gynnig o le i ddisgybl mewn Ysgol

Bydd rhieni’n cael eu hysbysu trwy e-bost yn cadarnhau, neu fel arall, fod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig iddynt y cyfle i dderbyn y lle yn unol â'r trefniadau derbyn a nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Rhaid i riant dderbyn yr e-bost cynnig i sicrhau lle yn yr ysgol. Os na fydd rhiant yn ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost, mae'n bosibl y bydd y lle yn cael ei dynnu'n ôl a'i gynnig i ddisgybl arall.

 

Tynnu Cynnig o Le yn Ôl

Gellir tynnu'r cynnig o le mewn ysgol yn ôl ar y sail:

  • darganfyddir yn ddiweddarach y cafodd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol ei gyflwyno (e.e. honni ar gam preswylio mewn dalgylch ysgol); neu
  • os nad yw’r lle a gynigir wedi cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a nodir yn yr e-bost/llythyr. Yna gallai'r Awdurdod ailddyrannu'r lle i blentyn arall.
  • Mae lle mewn ysgol arall yn cael ei gadarnhau gan riant/gwarcheidwad
  • Os nad yw disgybl wedi dechrau mewn ysgol ar ddiwedd y tymor ysgol yr oedd i fod i ddechrau yn unol â pholisi'r Awdurdod.

Apeliadau Yn Ymwneud â Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd neu Uwchradd Cymunedol / Gwirfoddol a Reolir

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn a hefyd am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar (lleoedd rhan-amser i blant 3 oed).

Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt. Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol i'r panel erbyn dyddiad y gwrandawiad apêl neu efallai na fydd y panel yn ystyried hyn. Ni fydd y panel yn gallu ystyried unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol a ddarperir yn dilyn y gwrandawiad.

Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.

Rhaid i apêl gan rieni yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Reolir gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen Apeliadau.

Ffurflen Apêl Derbyniadau Ysgol

Rhaid cyflwyno'r apeliadau erbyn y dyddiadau cau a nodir ar yr e-bost penderfyniad neu fel y nodir yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn yn y ddogfen hon.

Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwrando ar apeliadau yn annibynnol.

 

Cyflwr Meddygol

Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen ichi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol.


Amserlen Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer Ysgolion 2026-27.

Trefniadau Darpariaeth Dyddiad Geni Dechrau Ysgol Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais Dyddiad hysbysiad o benderfyniad Dyddiad Cau Apeliadau ar gyfer y ceisiadau hynny a wnaed erbyn y dyddiad cau

Blynyddoedd Cynnar

Addysg Feithrin Plant 3 blwydd oed

(Rhan-amser yn unig mewn ysgolion 3-11 oed)

1 Medi 2023 a 31 Awst 2024

Ionawr 2027

Ebrill 2027

Medi 2027

31 Gorffennaf 2026 Hydref 2026 Dim hawl i apelio

Addysg Llawn Amser

Addysg 4 blwydd oed Cynradd 4 – 11

(Addysg llawn amser mewn Ysgol Gynradd)

1 Medi 2022 a 31 Awst 2023

Ionawr 2027

Ebrill 2027

Medi 2027

31 Ionawr 2026 16 Ebrill 2026 neu'r diwrnod gwaith nesaf 14 Mai 2026

Addysg Uwchradd

Symud o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd

(Blwyddyn 7)

1 Medi 2014 a 31 Awst 2015 Medi 2026 28 Tachwedd 2025 1 Mawrth 2026 neu'r diwrnod gwaith nesaf 30 Mawrth 2026

Atodiad A

Rhestr o Ysgolion