Mae’r ffôn o’r golwg yn yr ysgol

Mae ffonau symudol yn rhan gynyddol o fywydau plant a phobl ifanc, ac mae llawer o sylw wedi bod ar y graddau y mae hyn yn beth da neu'n beth drwg. 

Rydym yn cydnabod bod ffonau symudol yn offer defnyddiol i gyfathrebu. Fodd bynnag, mae'r camddefnydd a wneir ohonynt yn bryder cynyddol yn lleol ac yn genedlaethol. Ein blaenoriaeth yw diogelu llesiant disgyblion, cynnal amgylchedd dysgu cadarnhaol, ac annog rhyngweithio cymdeithasol iach. Ar ôl ymgynghori'n drylwyr â staff, disgyblion a rhieni, rydym yn gwahardd ffonau symudol yn ystod oriau ysgol.

 

Beth yw'r rheswm dros y gwaharddiad?

  • Tarfu ar ddysgu: Gall ffonau dynnu sylw disgyblion oddi wrth y gwersi.
  • Pryderon am Ddiogelwch Ar-lein: Camddefnyddio, seiberfwlio, aflonyddu, a rhannu delweddau amhriodol.
  • Ffocws ar Lesiant: Mae lleihau amser ar sgriniau yn helpu i wella'r gallu i ganolbwyntio, sgiliau cymdeithasol, ac iechyd emosiynol.

Beth sydd gan ein plant ysgol i'w ddweud…