Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a biniau yn y dyfodol
Newidiadau yn y dyfodol 2026
Byddwn ni'n gwneud rhai newidiadau pellach i gasgliadau biniau o gartrefi a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi ailgylchu mwy o'ch cartref. Gellir ailgylchu bron i hanner yr eitemau mewn bagiau du, felly mae llawer mwy y gallwn ei wneud o hyd i leihau ein gwastraff. Drwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau i'w hailgylchu, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi yn eich bagiau du.
Diolch i'ch ymdrechion gwych, rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2025, fodd bynnag, yr her nawr yw symud tuag at Ddyfodol Diwastraff gyda chyfraddau ailgylchu cynyddol erbyn 2030. Dechreuon ni'r newid hwn ym mis Ionawr 2023 pan wnaethom gyflwyno casgliadau gwydr o ymyl y ffordd a chasgliadau bagiau glas ailgylchu bob wythnos.
Ym mis Hydref 2026, ein nod yw rhoi traean o'r Sir ar Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru, y dull casglu a ffefrir ganddynt i sicrhau deunydd ailgylchu o'r ansawdd gorau. Bydd y preswylwyr hynny ar y cynllun yn cael:
- Casgliadau wythnosol ar wahân ar gyfer gwydr, papur, cardbord, caniau a phlastig, tecstilau a batris cartref.
- Bydd gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu'n wythnosol.
- Casgliadau bagiau du bob 3 wythnos yn parhau gyda hyd at 3 bag fesul casgliad.
- Bydd casgliadau gwastraff gardd am dâl a chasgliadau cewynnau/hylendid yn digwydd bob pythefnos ar gais.
Ym mis Hydref 2028 bydd pob aelwyd yn newid i'r trefniant canlynol:

- Casgliad bagiau du bob pedair wythnos, hyd at 3 bag fesul casgliad.

Cwestiynau Cyffredin
Mae'r Cwestiynau Cyffredin hyn yn darparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau rydym yn eu gwneud a byddwn yn parhau i'w diweddaru yn seiliedig ar adborth a chwestiynau gan breswylwyr.
Bydd y newidiadau hyn yn gwella ôl troed carbon y cyngor, yn ein helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ac yn darparu gwasanaeth mwy cost-effeithiol.
Mae'r newidiadau yn angenrheidiol er mwyn cyrraedd y targedau ailgylchu statudol cynyddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ac i fodloni gofynion eu "Glasbrint Casgliadau" sy'n hyrwyddo casglu deunyddiau gwastraff ar wahân o ymyl y ffordd. Mae hyn yn sicrhau deunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel, heb eu halogi.
Ym mis Hydref 2026 byddwn yn cyflwyno casgliadau gwastraff ar wahân wrth ochr y ffordd i draean o breswylwyr, cyn ymestyn y trefniant ar draws y sir ym mis Hydref 2028. Mae'r dull hwn, yn lleihau halogiad, yn gwella ansawdd deunyddiau ailgylchu ac yn annog preswylwyr i ailgylchu mwy. Bydd hyn yn helpu i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu a chyrraedd targedau yn y dyfodol.
Trwy wahanu eich gwastraff i gynwysyddion / sachau gwahanol, mae'r deunyddiau a gesglir yn llai tebygol o gael eu halogi a gellir eu gwneud yn gynhyrchion newydd yn haws. Gallwn hefyd gynyddu'r ystod o ddeunyddiau rydym yn eu casglu i gynnwys tecstilau, a batris cartref.

Bydd gan y cyngor gerbydau gydag amrywiaeth o adrannau a bydd ein criwiau'n gosod eich eitemau wedi'u sortio yn y rhannau cywir wrth iddynt wneud eu rowndiau.
Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd ag y bydd ein fflyd ailgylchu bresennol yn cyrraedd diwedd ei hoes.
Drwy sortio'r gwastraff o ymyl y ffordd, bydd hyn yn gwella ansawdd y deunyddiau rydym yn eu casglu i'w hailgylchu, sy'n well i'r amgylchedd ac a fydd yn ein helpu i ailgylchu mwy.
Er bod rhoi eich holl ddeunyddiau ailgylchu mewn un bag yn fwy cyfleus, ni fydd y ffordd hon o gasglu deunyddiau ailgylchu yn bosibl yn y dyfodol wrth i ni geisio cynhyrchu deunyddiau o ansawdd gwell. Wrth i'n targedau ailgylchu gynyddu a faint o ailgylchu sy'n cael ei gasglu gynyddu ledled y wlad, bydd y proseswyr gwastraff yn canolbwyntio ar yr awdurdodau lleol hynny y mae eu deunyddiau heb eu halogi ac o ansawdd gwell.
Trwy ofyn i aelwydydd wahanu eu heitemau i gynwysyddion gwahanol, fel y mae mwy o Awdurdodau Cymru yn ei wneud erbyn hyn, bydd tipyn llai o halogi deunyddiau yn digwydd.
Bydd y cyngor yn darparu cynwysyddion gwastraff ar gyfer storio a chyflwyno deunyddiau ailgylchu wrth ochr y ffordd i'r traean o breswylwyr yn y cyflwyniad cyntaf ym mis Hydref 2026. Bydd y cynwysyddion hyn yn cael eu dosbarthu ychydig cyn i'r gwasanaeth newydd ddechrau. Byddwn yn darparu bagiau polypropylen gweuedig o wahanol feintiau ar gyfer casglu papur, cardbord, plastig / caniau a chartonau a batris y cartref ar wahân. Gellir casglu tecstilau mewn bagiau a gyflenwir gan ddeiliad y tŷ.
Nid yw'r sachau yn ysgafn i'w hatal rhag chwythu o gwmpas yn ystod tywydd garw.
Ein nod yw dosbarthu eich bagiau newydd yn ystod Haf 2026.
Rydym yn ymwybodol efallai nad oes gan rai preswylwyr lawer o le storio ac rydym yn gweithio'n agos gyda WRAP Cymru, sydd wedi cefnogi awdurdodau eraill Cymru wrth drosglwyddo i'r dull casglu hwn, ac wedi helpu i bennu'r cynwysyddion mwyaf addas.
Bydd mwy o fanylion ynghylch awgrymiadau a syniadau ar gyfer storio'r cynwysyddion hyn yn cael eu darparu pan gânt eu cyflwyno.
Byddwn yn darparu mwy o wasanaethau casglu o'r cartref i chi nag yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd drwy gynyddu casgliadau gwydr i gasgliadau wythnosol, casglu tecstilau a batris y cartref o ymyl y ffordd a pharhau i gasglu eich gwastraff ailgylchadwy sych arall bob wythnos. Bydd gwasanaethau eraill fel casgliadau ar gyfer cewynnau plant, cynhyrchion hylendid oedolion, a gwastraff gwyrdd yn parhau i gael eu casglu bob pythefnos.
Os ydych chi'n defnyddio gwasarn cathod sy'n organig fel pelenni pren neu bapur, gall y rhain fynd i mewn i'ch bin compost yn y cartref. Gellir tynnu solidau a'u rhoi yn y bagiau gwastraff gweddilliol du. Gall gwasarn cathod sy'n seiliedig ar glai fynd yn uniongyrchol i fagiau gwastraff gweddilliol du.
Os ydych chi'n casglu baw ci wrth fynd â'ch ci am dro, gallwch ei waredu mewn biniau sbwriel ar y stryd. Ar gyfer gwastraff cŵn neu anifeiliaid anwes o'r cartref, gallwch ei roi yn eich bag gwastraff gweddilliol (du) ar gyfer y casgliad o ymyl y ffordd.
Os ydych yn mynd y tu hwnt i'ch terfyn o dri bag du, neu'n teimlo bod y bagiau yn rhy drwm, gellir mynd â'r bagiau hyn i unrhyw un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i'w gwaredu.
Fel arall, gallwch ddefnyddio mwydonfeydd neu beiriannau treulio gwastraff anifeiliaid anwes gartref i'w waredu. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar gael ar-lein.
Os yw'n well gennych, gallwch osod yr eitemau hyn mewn bag llai o faint tebyg i sach gewyn ac yna eu rhoi yn eich bag du gyda gwastraff cartref arall na ellir ei ailgylchu ar gyfer eich casgliad bagiau du arferol. Gallwch hefyd storio eich bagiau du mewn bin cyn eu gosod allan i'w casglu. Gallwch adael hyd at dri bag du mewn bin sbwriel sy'n storio dim mwy na 90L (nid whilfin) i'w casglu os yw'n well gennych. I gael gwared yn amlach, gallwch fynd i'ch canolfan ailgylchu leol.
Caiff deunyddiau ailgylchu eu casglu bob wythnos i annog cyfranogiad uwch a lleihau halogiad, gan sicrhau bod deunyddiau'n cael eu cadw'n lân a'u bod yn fwy tebygol o gael eu hailgylchu'n effeithiol. Nod y newid i gasgliadau ailgylchu wythnosol, gan gynnwys cyflwyno ffrydiau newydd fel tecstilau a batris, yw cefnogi cyfraddau ailgylchu uwch.
Drwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau i'w hailgylchu, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu.
Gyda chasgliadau bwyd ac ailgylchu bob wythnos a chasgliad bob pythefnos ar gyfer cewynnau plant a chynhyrchion hylendid oedolion, bydd digon o le mewn bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Mae gan breswylwyr hefyd yr opsiwn o ddefnyddio unrhyw un o'n pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer gwaredu bagiau du ychwanegol a mathau eraill o wastraff nad ydynt fel arfer yn cael eu casglu o ymyl y ffordd.
Yn nodweddiadol, mae eitemau sy'n cael eu tipio'n anghyfreithlon yn wastraff swmpus neu fasnachol, nad ydynt wedi'u cynnwys mewn casgliadau ailgylchu wrth ochr y ffordd. Yn aml, gellir mynd ag eitemau swmpus y cartref i'r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu yn rhad ac am ddim, neu gellir trefnu casgliad gwastraff swmpus am dâl drwy ein gwefan neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt: (01267) 234567.
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, a bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon yn cael ei erlyn. Gallech gael cofnod troseddol a dirwyon neu gael eich carcharu.
Bydd gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu mewn bagiau du safonol yn unig. Efallai na fydd bagiau sy'n fwy na'r 60 litr safonol yn cael eu casglu oherwydd anaf posibl i'n criwiau.
Os yw'n well gennych, gallwch osod eich bagiau du mewn bin sbwriel traddodiadol i'w gasglu o ymyl y ffordd, ond ni ddylai'r bin sbwriel fod yn fwy na 90 litr o ran maint i ganiatáu gwagio â llaw. Gwnewch yn siŵr nad oes mwy na tri bag du yn cael eu rhoi yn y bin.
Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod cyfyngu ar nifer y bagiau du y gall pobl eu rhoi allan yn eu hannog i roi gwastraff cyffredinol yn gymysg â'u deunyddiau ailgylchu, yn enwedig os yw eitemau wedi'u hailgylchu yn cael eu gwahanu wrth ochr y ffordd. Fodd bynnag, mae digon o dystiolaeth sy'n dangos bod llawer o wastraff y gellid ei ailgylchu (gan gynnwys bwyd) yn cael ei roi yn y bagiau du ar gyfer gwastraff yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd.
Mae cyfyngu ar faint o fagiau gwastraff du sy'n cael eu casglu yn annog pobl i feddwl am yr hyn maen nhw'n ei daflu ac i ailgylchu mwy o'r pethau y dylid eu hailgylchu.
Er mwyn atal denu fermin, defnyddiwch eich bin gwastraff bwyd â chlo arno ar gyfer yr holl wastraff bwyd gan sicrhau ei fod yn cael ei roi allan i'w gasglu bob wythnos. Hefyd, golchwch a gwasgwch eich deunyddiau ailgylchu fel nad ydynt yn cynnwys gweddillion bwyd. Trwy osod deunyddiau ailgylchu glân i'w casglu a thrwy ddefnyddio ein gwasanaeth gwastraff hylendid a chewynnau, ychydig iawn o wastraff pydradwy i ddenu fermin ddylai eich bag du gynnwys.
Er mwyn atal arogleuon, defnyddiwch eich bin gwastraff bwyd â chlo arno ar gyfer yr holl wastraff bwyd a'i roi allan ar gyfer y casgliad wythnosol.
Os yw eich cartref yn defnyddio cewynnau neu gynnyrch anymataliaeth arall, gallwch gofrestru ar gyfer Casgliad Gwastraff Hylendid a Chewynnau bob pythefnos AM DDIM. Yn ogystal, gall rhoi gwastraff anifeiliaid mewn bag a'i roi yn eich bag du helpu i leihau arogleuon. Gallwch hefyd ddefnyddio bin sbwriel i ddal y bagiau.
Rydym yn cydweithio ag asiantaethau rheoli fflatiau lle bo'n bosibl. Ar gyfer eiddo heb reolaeth o'r fath, byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda thenantiaid i drefnu atebion addas. Bydd y dull gweithredu yn amrywio yn dibynnu ar y math o eiddo a hygyrchedd.
Bydd opsiynau eraill ar gyfer grwpiau cymwys penodol, er enghraifft sach aml-adran, ar gyfer eiddo neu fflatiau deiliadaeth sengl.
Drwy ailgylchu rydych yn gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir Gaerfyrddin. DIOLCH i chi am barhau i wneud y peth iawn ac am wneud eich rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli eich gwastraff ac ailgylchu'r hyn a allwch.