Eisiau arbed £125?
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/03/2025
Eisiau arbed £125? Mae'n rhwydd! Bydd dewis syml i beidio â gollwng eich sbwriel yn eich helpu i arbed yr arian hwn.
Gallwch chwarae eich rhan (yn ogystal ag arbed arian) trwy gael gwared ar eich gwastraff yn y modd cywir a pheidio â thaflu sbwriel yn ein sir.
Bob blwyddyn, mae gollwng sbwriel fel deunydd lapio bwyd cyflym, cynwysyddion diodydd a chetris fêps nid yn unig yn niweidio'r amgylchedd, ond hefyd yn peri costau glanhau sylweddol.
I fynd i'r afael â'r mater hwn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa trigolion y gall gollwng sbwriel arwain at ddirwy o £125, a gaiff ei gostwng i £95 os caiff y ddirwy ei thalu o fewn 10 diwrnod. Gallai dirwyon heb eu talu arwain at achos llys gyda chosbau o hyd at £2,500.
Mae gan y dudalen hon fwy o wybodaeth am effeithiau gollwng sbwriel yn ein sir.