Ein gwasanaeth cyn cyflwyno cais

Mae hyn yn cael ei gynnig i bob cwsmer sydd â chais llawn a gwybodaeth ategol gysylltiedig yn barod. 

Byddai'r gwasanaeth hwn wedyn yn adolygu'r cais i ddeall a darparu adborth os oes unrhyw beth ar goll neu'n aneglur a fyddai'n arwain at oedi neu beidio â dilysu'r cais neu ei wrthod.  Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn cynghori os oes angen unrhyw ganiatâd neu gymeradwyaeth ychwanegol, a fydd yn effeithio ar eich gallu i gael canlyniad cadarnhaol pan fyddwch yn cyflwyno cais llawn. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn drafodiad untro, mae'r pecyn cais yn cael ei gyflwyno a rhoddir sylwadau. Nid yw'n broses ailadroddus, a bydd gwiriadau pellach yn cael eu codi ar y gyfradd lawn cyn ymgeisio.

Er mwyn i'r broses cyn cyflwyno cais fod yn gynhyrchiol ac yn werth chweil i bob parti ac i ddarparu cyngor, bydd angen cyflwyno gwybodaeth ymlaen llaw.

Mae'r wybodaeth allweddol a ddylai fod ar gael ar gyfer y broses cyn cyflwyno cais gynhyrchiol yn cynnwys o leiaf  

  • Asesu perygl llifogydd presennol o bob ffynhonnell
  • Manylion amodau'r ddaear / ymchwiliadau safle (profion ymdreiddiad)
  • Manylion topograffeg y safle
  • Manylion llwybrau llif naturiol dros y tir
  • Manylion cyrsiau dŵr presennol, ffiniau safle.
  • Manylion amgylcheddau sensitif a'u gallu i gael eu heffeithio gan ddatblygiad.
  • Datganiadau a thystiolaeth ar sut y bydd safonau S1-S6 yn cael eu bodloni.
  • Ar gyfer safleoedd y gellir eu mabwysiadu, mapiau sy'n tynnu sylw at y draeniad y gellir eu mabwysiadu ac unrhyw ddraeniad arall a'i berchnogaeth;
  • Os hoffech gael adborth ar fondiau a neu symiau cyfnewid, yna dylid darparu bil o symiau a chostau adeiladu hefyd.