Pwy all wneud cais am drafodaethau cyn cyflwyno cais?
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/08/2025
Gall unrhyw un gyflwyno cais am gyngor cyn ymgeisio, ond efallai yr hoffech wirio bod angen Cymeradwyaeth Draenio Gynaliadwy arnoch ar gyfer eich cynnig.
Sylwer
Pwrpas gwasanaethau yn ôl disgresiwn yw bod y datblygwr yn cael cyswllt cychwynnol â'r corff cymeradwyo draenio cynaliadwy i esbonio natur y datblygiad, a bod y swyddogion yn dod â'r Safonau Cenedlaethol neu faterion sy'n peri pryder i sylw'r datblygwyr. Ni fydd swyddogion mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddatrys materion neu ddod i unrhyw gasgliadau terfynol am y cynllun.
Bydd hwn yn gyfle i'r datblygwr ddod yn ymwybodol o'r safbwyntiau hynny, a'u hystyried wrth gyflwyno cais ffurfiol. Ar y cam hwn ni all y Cyngor adolygu cyflwyniadau dylunio manwl fel cyfrifiadau hydrolig, datganiadau amgylcheddol neu asesiadau hyfywedd.
Nid yw'r gwasanaethau ychwanegol a ddisgrifir uchod yn rhagfarnu penderfyniad ar unrhyw gais.
Mae ffioedd llawn i'w talu ymlaen llaw ac nid ydynt yn ad-daladwy. Bydd TAW hefyd yn cael ei godi ar wasanaethau ychwanegol.