Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd ichi a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu mewn unrhyw ffordd bosibl.
Ar ôl marwolaeth, yn y rhan fwyaf o achosion bydd y meddyg sy'n bresennol cyn i'r ymadawedig farw yn rhoi tystysgrif feddygol i'r Gwasanaeth Cofrestru priodol.
Mae'n rhaid ichi drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl i gwblhau'r broses o gofrestru marwolaeth. Mae'n ofyniad statudol bod marwolaethau yn cael eu cofrestru cyn pen 5 diwrnod (gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc) yn yr ardal *lle digwyddodd y farwolaeth.
Os yw'r meddyg yn cyfeirio'r farwolaeth at y Crwner a bod post-mortem yn cael ei gynnal, ni roddir tystysgrif feddygol, a bydd y Crwner yn darparu'r dogfennau sy'n angenrheidiol ar gyfer y cofrestriad yn uniongyrchol i'r cofrestryddion. Bydd dal angen ichi drefnu apwyntiad gyda Swyddfa'r Cofrestrydd i gwblhau'r broses o gofrestru marwolaeth.
Pan atgyfeirir marwolaeth at y Crwner, efallai na fydd modd cofrestru cyn pen 5 diwrnod. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond diwrnod neu ddau o oedi a achosir gan atgyfeirio. Fodd bynnag, gall rhai atgyfeiriadau neu archwiliadau gymryd mwy o amser.
Gellir cofrestru marwolaeth yn Sir Gaerfyrddin yn Gymraeg ac yn Saesneg.
*O bryd i'w gilydd, gallwch drefnu i gofrestru y tu allan i'r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, mewn Swyddfa Cofrestrydd Gymreig neu Seisnig o'ch dewis. Fodd bynnag, gall hyn achosi oedi o ran cofrestru a chyflwyno tystysgrif marwolaeth. Os ydych yn dymuno trafod cofrestriad y tu allan i'r ardal, a fyddech cystal â ffonio ni ar 01267 228210.
Pwy sy'n gallu cofrestru'r farwolaeth?
Yn ddelfrydol, dylai'r person sy'n cofrestru'r farwolaeth fod yn berthynas agosaf, neu'n berthynas agos i'r ymadawedig. Rydym yn deall nad yw hyn bob amser yn bosibl, ac os dyma'r achos, a fyddech cystal â chysylltu â ni ar 01267 228210 am gyngor a chymorth.
Beth sydd angen ichi ddod gyda chi i gofrestru'r farwolaeth?
Pan fyddwch yn dod i gofrestru, bydd angen ichi ddod â dogfennau adnabod personol gyda chi er enghraifft Pasbort, Trwydded Yrru, neu dystysgrif geni.
Bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r cofrestrydd am yr ymadawedig.
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Enw a chyfenw
- Cyfenw cyn priodi (lle bo'n briodol)
- Dyddiad a man geni
- Galwedigaeth
- Enw, dyddiad geni a galwedigaeth gwraig/gŵr/partner sifil (fel y bo'n briodol)
- Cyfeiriad Cartref
Cyn llofnodi, gofynnir ichi ddarllen y dudalen yn ofalus. Mae'n bwysig bod y wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr farwolaeth yn gywir. Os gwneir camgymeriad, er enghraifft wrth sillafu enw neu gyfenw, neu gamddisgrifio'r alwedigaeth, efallai y bydd angen cywiriad ffurfiol. Os bydd angen i chi gywiro neu newid cofrestriad sydd wedi'i gwblhau, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffioedd statudol.
Trefnu apwyntiad
Yn y rhan fwyaf o'r achosion, gallwch drefnu apwyntiad ar-lein i gofrestru marwolaeth. Fodd bynnag, os yw'r farwolaeth wedi cael ei atgyfeirio at y Crwner neu os nad ydych yn gallu dod o fewn 5 niwrnod wedi'r farwolaeth, bydd angen ichi ffonio ni ar 01267 228210 fel ein bod yn gallu trefnu apwyntiad a chynnig cyngor ar eich cyfer.
Trefnu apwyntiad
Dywedwch wrthym Unwaith
Gwasanaeth sy'n rhad ac am ddim gan y Llywodraeth yw Dywedwch wrthym unwaith. Mae'r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i hysbysu sawl sefydliad Llywodraeth ar unwaith am farwolaeth, er enghraifft y DVLA, y Swyddfa Basbort, yr Awdurdod Lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ati.
Os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, rydym yn fwy na pharod i gwblhau rhan un or broses hon gyda chi yn ystod eich apwyntiad. Yna byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gwblhau’n llawn gartref.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i gov.uk
Dewch i wybod mwy am Dywedwch Wrthym Unwaith
Tystysgrifau
Mae copi llawn o gofnod y gofrestr gyfreithiol ar gael i'w brynu am £12.50 yr un wrth gofrestru.
Mae'n rhaid cael tystysgrif farwolaeth er mwyn unioni unrhyw bryderon personol ac ariannol, fodd bynnag, os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch wrthym Unwaith, efallai y gwelwch chi nad oes angen cynifer o gopïau.
Gallwch ofyn i'r cofrestrydd am gyngor cyffredinol wrth gofrestru neu ceisiwch eich cyngor cyfreithiol eich hun o ran faint o dystysgrifau y bydd eu hangen arnoch o bosib cyn yr apwyntiad.
Ar ôl cofrestru, gellir gofyn am ragor o gopïau o dystysgrifau ac mae modd eu harchebu ar-lein.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os gallwn fod o unrhyw gymorth cyn ichi drefnu apwyntiad, mae croeso ichi ffonio ni ar 01267 228210.
Trefnwch apwyntiad
Nôl i'r dudalen gartref