Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Os ydych yn chwilio am leoliad arbennig ar gyfer eich seremoni briodas, partneriaeth sifil neu seremoni gweinydd unigryw, neu os oes angen i chi gofrestru genedigaeth neu farwolaeth, mae ein tîm o gofrestryddion cyfeillgar a phroffesiynol, swyddogion cymorth a dathlwyr yma i’ch cynorthwyo.
Gallwn roi gwybodaeth i chi am briodas neu bartneriaeth sifil, sut i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth a sut i gael copi o dystysgrif geni, priodas, partneriaeth sifil neu farwolaeth.
Gallwn hefyd eich helpu drwy seremoni adnewyddu addunedau neu gadarnhau, seremoni enwi, cofeb neu seremoni dathlu bywyd.
Rydyn ni yma i helpu a chefnogi trwy holl ddigwyddiadau mawr bywyd.