Mae ychwanegiad newydd i'r teulu bob amser yn gyfle gwych i ddathlu, ac mae Seremoni Enwi yn achlysur i groesawu baban, plentyn sy'n cael ei fabwysiadu, neu lys-blentyn i gylch y teulu. Gallwn weithio gyda chi greu seremoni a fydd yn gyfle arbennig i deulu a ffrindiau ddod at ei gilydd i ddathlu a gwneud adduned i'w gynnal/chynnal ar daith bywyd.
Mae'n addas i bob oed, a gall gynnwys croesawu mwy nag un plentyn. Efallai y byddwch am gynnwys addewidion ac addenedau gan rieni ac unigolion arwyddocaol eraill, gyda cherddoriaeth, barddoniaeth a rhoddion.
Nid oes status cyfreithiol i'r seremonïau amgen hyn, ac felly maen gynnym rywfaint o ryddid creadigol a hyblygrwydd wrth eu llunio a'u cyflwyno.
Os hoffech chi drafod seremoni enwi, cysylltwch a ni ar 01267 228210 neu ebostiwch cofrestru@sirgar.gov.uk.
Yn ôl i'r hafan