Seremonïau Ymrwymo
Os nad yw priodas gyfreithlon neu bartneriaeth sifil i chi ond hoffech ddathlu eich perthynas â'ch anwyliaid, cymryd llwon neu wneud addewidion, cyfnewid modrwyon, gwrando ar gerddoriaeth a darlleniadau a dathlu eich ymrwymiad i'ch gilydd yn gyhoeddus. Byddwn wrth ein boddau'n gweithio gyda chi i gynllunio'r achlysur arbennig hwn.
Seremonïau Enwi Baban / Plentyn
Achlysur i groesawu baban, plentyn mabwysiedig neu lysblentyn i'r cylch teulu yw Seremoni Enwi. Byddwn yn gweithio gyda chi i greu seremoni a fydd yn cynnig cyfle arbennig i'ch ffrindiau a'ch anwyliaid ddod at ei gilydd i ddathlu ac addo cefnogaeth ar daith y baban/plentyn drwy fywyd.
Angladdau / Gwasanaethau Coffa Sifil
Dewis arall yn lle seremonïau crefyddol yw'r rhain. Gallwn baratoi a chynnal gwasanaeth coffa neu angladd sifil sydd wedi'u personoli yn ofalus iawn gyda chi i anrhydeddu a dathlu eich perthynas neu eich anwylyn.
Seremonïau Dod i Oedran / Pen Blwydd Carreg Filltir
Mae'r seremonïau hyn yn boblogaidd yn enwedig ymysg pobl sy'n 18 ac 21 oed ac yn dod i oedran, ond yn aml caiff eu cynnal ar gyfer pen blwyddi carreg filltir megis pen blwyddi 40 oed, 50 oed neu 100 oed ac ati.
Nid rhestr lawn mo hon, ac rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau. Beth bynnag y bo'r achlysur, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich seremoni ddelfrydol.
Cyn trefnu seremoni gweinydd, efallai y bydd arnoch angen rhai dogfennau a bydd y rhain yn cael eu trafod pan fyddwch yn archebu.
I gael atodlen lawn o'r taliadau a rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â ni ar 01267 228210 neu e-bostiwch cofrestru@sirgar.gov.uk.
Nôl i'r dudalen gartref