Priodasau a Phartneriaethau Sifil
Helpu chi i gynllunio eich diwrnod arbennig
Bydd ein tîm o staff cyfeillgar a phrofiadol yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich digwyddiad yn arbennig. Bydd ein gofal a'n sylw yn dechrau adeg eich ymholiad cychwynnol ac rydym yn wir yn deall pwysigrwydd pob manylyn, waeth pa mor fach.
Os ydych yn cynnal eich seremoni yn Sir Gaerfyrddin, gallwch archebu cofrestrydd hyd at 3 blynedd cyn eich dyddiad arfaethedig.
Sut i archebu cofrestrydd
Cysylltwch â'ch lleoliad dewisedig i drefnu dyddiad amodol. Yn ogystal â'r ystafelloedd yn y Swyddfa Gofrestru, mae nifer o leoliadau hyfryd eraill yn Sir Gaerfyrddin, sy’n amrywio o westai i ffermydd a chestyll. Bydd y lleoliadau hyn yn berffaith ar gyfer unrhyw ddathliad.
Ar ôl ichi drefnu dyddiad amodol gyda'ch lleoliad, cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 228210, er mwyn inni drafod eich gofynion a chadw'r dyddiad amodol ichi. Bydd angen ichi dalu ffi archebu na ellir ei had-dalu.
Unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich dyddiad gyda'r lleoliad, rhowch wybod inni a byddwn yn egluro gweddill y broses ichi er mwyn cynllunio eich diwrnod mawr.
Ffïoedd
Bydd angen talu ffi archebu na fydd yn cael ei had-dalu ar gyfer pob seremoni a archebir. Bydd y taliad hwn yn cael ei dynnu o'r balans terfynol.
Gallai'r holl ffïoedd newid heb rybudd. Codir ffi arnoch ar y gyfradd ar gyfer dyddiad y digwyddiad.
Seremonïau'r swyddfa gofrestru
Mae gennym nifer o ystafelloedd seremoni hardd yn ein swyddfeydd yn yr Hen Ysgol yng Nghaerfyrddin a Neuadd y Dref yn Llanelli. Mae'r ffioedd yn amrywio rhwng £56 - £605 gan ddibynnu pa bryd a ble rydych yn dewis cynnal eich seremoni.
Darganfyddwch fwy am ein hystafelloedd seremoni a'r ffioedd
Seremonïau mewn lleoliadau trwyddedig
Byddwn yn dod i leoliad trwyddedig o'ch dewis yn Sir Gaerfyrddin ac yn cynnal seremoni bersonol. Mae'r ffioedd yn cynnwys cyfarfod gyda'ch cofrestrydd cyn diwrnod eich priodas i drafod eich gofynion a sgript seremoni bersonol.
Dydd Llun – Dydd Iau | Dydd Gwener – Dydd Sadwrn | Dydd Sul – Gwyliau Banc |
---|---|---|
£495 | £550 | £605 |
Tystysgrifau
Gellir archebu a thalu am dystysgrifau ar ol eich seremoni ac maent yn costio £12.50 yr un.

Hysbysiad o Fwriad i Briodi/Ffurfio Partneriaeth Sifil
Unwaith y byddwch wedi archebu eich cofrestrydd a'ch lleoliad, mae gofynion cyfreithiol y bydd angen ichi eu cyflawni cyn y gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.
Bydd angen i'r ddau ohonoch fynd i'r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle'r ydych yn byw i roi'r hyn a elwir yn Hysbysiad cyfreithiol o Fwriad i Briodi/Ffurfio Partneriaeth Sifil. Os nad yw'r naill neu'r llall ohonoch yn Ddinesydd Prydeinig, anfonwch e-bost atom i gael cyngor: cofrestru@sirgar.gov.uk. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi hysbysiad o leiaf 6 mis cyn y seremoni, fodd bynnag, gallwch gwblhau'r broses hon hyd at flwyddyn cyn y seremoni.
Mae hyn yn costio £42.00 fesul person ac mae'n ffi statudol a bennir gan y Llywodraeth.
Cyn rhoi hysbysiad, mae'n rhaid ichi fod wedi archebu dyddiad yn amodol gyda'ch lleoliad a chyda Swyddfa'r Cofrestrydd yn yr ardal lle'r ydych am gynnal eich seremoni. Er mwyn rhoi hysbysiad, bydd arnoch angen dogfennau i gadarnhau pwy ydych a'ch cenedligrwydd, enw, oedran, cyflwr priodasol, statws o ran cenedligrwydd a'ch preswylfa.
Y canlynol yw'r dogfennau a ffefrir gennym:
- Tystysgrif geni lawn, trwydded yrru ddilys a phasbort dilys cyfredol. Os cawsoch eich geni ar ôl 1 Ionawr 1983 ac nad oes gennych basbort dilys cyfredol, cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 228210 i drafod hyn.
- Tystiolaeth o Breswyliaeth – e.e. trwydded yrru ddilys y Deyrnas Unedig, bil cyfleustod diweddar (wedi'i ddyddio o fewn 3 mis), cyfriflen banc (wedi'i dyddio o fewn 1 mis) NEU eich datganiad Treth Gyngor diweddaraf. Mae'n rhaid i'r dogfennau hyn ddangos eich enw a'ch cyfeiriad presennol yn glir.
- Tystiolaeth o Statws Priodasol - Os ydych wedi bod yn briod o'r blaen, mae angen archddyfarniad terfynol gwreiddiol, neu os ydych yn weddw, bydd angen inni weld tystysgrif marwolaeth eich diweddar ŵr/gwraig.
Os ydych yn dymuno priodi neu ffurfio Partneriaeth Sifil mewn adeilad crefyddol, bydd dal angen ichi roi Hysbysiad cyfreithiol o Fwriad i Briodi/Ffurfio Partneriaeth Sifil.
Ar ôl ichi roi hysbysiad, bydd yn rhaid ichi aros am 28 diwrnod clir (neu 70 diwrnod clir os ydych yn destun Rheolaeth Fewnfudo) cyn y gellir cyhoeddi'r ddogfen gyfreithiol a elwir yr “atodlen”. Mae'r ddogfen hon yn nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau cyfreithiol dilys i'r uniad.
Os ydych yn ystyried cynnal eich seremoni dramor, ewch i'r wefan gov.uk i gael cyngor.