Seremonïau Dathlu a Choffa
Crëwch rywbeth perffaith ac arwyddocaol y byddwch yn ei gofio am byth.
- share this page by email
- share this page on Facebook, opens in a new tab
- share this page on X (Twitter), opens in a new tab
- share this on Linked In, opens in a new tab
Rydym yn gofrestryddion profiadol sy'n gallu cynnig ystod eang o wasanaethau ychwanegol fel gweinyddion. Nid oes statws cyfreithiol i seremonïau gweinydd felly maent yn caniatáu mwy o hyblygrwydd a rhyddid creadigol o ran eu dylunio a'u cynnal. Gellir eu cynnal unrhyw le y dymunwch neu yn unrhyw un o'n lleoliadau hyfryd. Byddwn yn cydweithio'n agos â chi i greu rhywbeth perffaith ac arwyddocaol y byddwch yn ei gofio am byth.
Seremonïau Cadarnhau / Seremonïau Dathlu Priodas
Dyma'r dewis delfrydol os ydych eisoes wedi priodi'n gyfreithlon neu ffurfio partneriaeth sifil ac rydych bellach yn dymuno cynnwys eich teulu a'ch ffrindiau mewn seremoni wedi'i phersonoli mewn lleoliad a ddewisir gennych. Unwaith yn rhagor gallwch ddweud eich addunedau, cyfnewid modrwyon, cael darlleniadau a chwarae cerddoriaeth, a rhannu a dathlu eich uniad. Mae'r seremoni hon hefyd yn boblogaidd gyda chyplau sydd wedi cynnal eu seremoni gyfreithlon dramor.
Priodas gyfreithiol neu bartneriaeth sifil ac yna seremoni gweinydd
Cyfeirir at y rhain fel seremoni dau safle yw lle mae'r briodas gyfreithlon yn cael ei chynnal mewn swyddfa gofrestru, ystafell drwyddedig neu adeilad trwyddedig ac wedyn ar ôl hynny mae seremoni arbennig ychwanegol yn cael ei chynnal un ai'r tu allan i'r un lleoliad neu mewn lleoliad personol a ddewisir gennych nad oes ganddo o reidrwydd drwydded seremoni - er enghraifft, buarth, ysgubor neu draeth.
Seremonïau Adnewyddu Addunedau / Dathliadau Pen Blwydd Priodas
Os ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ers peth amser a hoffech bellach ddatgan a dathlu eich cariad oesol yn gyhoeddus o flaen eich teulu a'ch ffrindiau. Efallai mai pen blwydd priodas Aur yw'r achlysur, neu rydych yn dod ynghyd ar ôl treulio amser ar wahân; gallwn lunio rhywbeth sy'n bersonol ac yn unigryw dim ond ar gyfer eich diwrnod arbennig chi.

Seremonïau Ymrwymo
Os nad yw priodas gyfreithlon neu bartneriaeth sifil i chi ond hoffech ddathlu eich perthynas â'ch anwyliaid, cymryd llwon neu wneud addewidion, cyfnewid modrwyon, gwrando ar gerddoriaeth a darlleniadau a dathlu eich ymrwymiad i'ch gilydd yn gyhoeddus. Byddwn wrth ein boddau'n gweithio gyda chi i gynllunio'r achlysur arbennig hwn.
Seremonïau Enwi Baban / Plentyn
Achlysur i groesawu baban, plentyn mabwysiedig neu lysblentyn i'r cylch teulu yw Seremoni Enwi. Byddwn yn gweithio gyda chi i greu seremoni a fydd yn cynnig cyfle arbennig i'ch ffrindiau a'ch anwyliaid ddod at ei gilydd i ddathlu ac addo cefnogaeth ar daith y baban/plentyn drwy fywyd.
Angladdau / Gwasanaethau Coffa Sifil
Dewis arall yn lle seremonïau crefyddol yw'r rhain. Gallwn baratoi a chynnal gwasanaeth coffa neu angladd sifil sydd wedi'u personoli yn ofalus iawn gyda chi i anrhydeddu a dathlu eich perthynas neu eich anwylyn.
Seremonïau Dod i Oedran / Pen Blwydd Carreg Filltir
Mae'r seremonïau hyn yn boblogaidd yn enwedig ymysg pobl sy'n 18 ac 21 oed ac yn dod i oedran, ond yn aml caiff eu cynnal ar gyfer pen blwyddi carreg filltir megis pen blwyddi 40 oed, 50 oed neu 100 oed ac ati.
Nid rhestr lawn mo hon, ac rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau. Beth bynnag y bo'r achlysur, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich seremoni ddelfrydol.
Cyn trefnu seremoni gweinydd, efallai y bydd arnoch angen rhai dogfennau a bydd y rhain yn cael eu trafod pan fyddwch yn archebu.
I gael atodlen lawn o'r taliadau a rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â ni ar 01267 228210 neu e-bostiwch cofrestru@sirgar.gov.uk.