Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
 - Eiriolaeth
 - Taliadau Gohiriedig
 - Anfonebu am Daliadau
 - Methu Taliadau a Dyled
 - Amddifadu o Asedau
 - Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
 - Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
 - Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
 - Adolygiadau a Dulliau Apelio
 - Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
 - Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
 
Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
| - | Pob Gwasanaeth y Codir Tâl Amdano | 
|---|---|
| Dechrau gwasanaeth | Codir o’r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’ | 
| Terfynu gwasanaeth yn barhaol | Cymhwysir y ffi hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad terfynu – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’ | 
| Colli galwad - bai'r darparwr/gofalwr | Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau' | 
| Galwad/gwasanaeth wedi’i ganslo – bai/cais y person ag anghenion gofal a chymorth, ee, y person ag anghenion gofal a chymorth ar wyliau | Os yw person ag anghenion gofal a chymorth yn rhoi rhybudd rhesymol ymlaen llaw (24 awr) i'r darparwr gwasanaeth, yna defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) a chaiff y ffi ei hail-gyfrifo (efallai na fydd y ffi yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau' | 
| Lefel is o wasanaeth oherwydd tywydd garw - methu galwadau | Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau' | 
| Y person ag anghenion gofal a chymorth yn derbyn gofal preswyl seibiannol/byrdymor a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl yn yr un wythnos | Mae gostyngiad gwasanaeth yn cael ei gymhwyso i wasanaeth dibreswyl a dderbynnir fel arfer (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo’n briodol) ac ail-gyfrifir y ffi i gynnwys gofal seibiant/tymor byr (efallai na fydd y ffi yn newid) – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’ | 
| Gwasanaeth ddim ar gael | Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau' | 
| Person ag anghenion gofal a chymorth dibreswyl yn cael ei dderbyn i'r ysbyty | Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau' | 
Mae un gwasanaeth yn stopio yn ystod yr wythnos, ond mae eraill yn parhau/mae gwahanol wasanaeth yn dechrau  | 
Defnyddir gostyngiad gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel y bo'n briodol) ac ailgyfrifir y tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Cychwyn a Therfynu Pecynnau' | 
| Derbyn gwasanaeth(au) ychwanegol heb eu cynllunio | Ni chodir tâl nes bydd y gwasanaeth yn dod yn rhan o’r Cynllun Gofal a Chymorth. Codir o’r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth – yn unol â’r ‘Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau’ | 
| Arosiadau mewn Ysbytai – Gofal Preswyl | Mae’r tâl a asesir yn ariannol arferol yn cael ei gymhwyso pan fydd person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i’r ysbyty a bod lleoliad y cartref gofal yn cael ei gadw. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol. | 
| Treialon dros dro gartref, i ffwrdd o’r cartref gofal gyd bwriad o ryddhau gartref yn barhaol –  Gofal Preswyl  | 
Mae’r tâl arferol a asesir yn ariannol yn cael ei gymhwyso pan fydd unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael treial dros dro gartref, gyda’r bwriad o gael ei ryddhau gartref, a bod y lleoliad cartref gofal yn cael ei gadw. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol. Gellir ystyried treuliau ar gyfer costau byw arferol gartref. Ni chodir tâl am wasanaethau cymdeithasol dibreswyl a dderbynnir yn ystod y treial dros dro gartref gan y bydd y person yn dal i orfod talu am ei leoliad mewn cartref gofal tra bydd yn cael ei gadw. | 
| Gwyliau/arosiadau byr gyda theuluoedd drwy gytundeb ymlaen llaw – Gofal Preswyl | Bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn parhau i orfod talu'r ffi a aseswyd yn ariannol. Os oes Cost Ychwanegol, bydd y tâl hwn yn berthnasol yn ogystal â’r tâl a asesir yn ariannol. | 
