Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi ar gyfer codi tâl ar bersonau sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr sy’n oedolion, neu rai sy’n derbyn gwasanaethau ataliol penodol (a elwir yn ‘berson(au)’ yn y polisi hwn), a ddarperir neu a gomisiynir gan Gyngor Sir Caerfyrddin (a elwir yn 'Sir Gaerfyrddin’).

 

2. Cefndir Cyfreithiol

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('y Ddeddf') ynghyd â Rheoliadau a chodau ymarfer i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae Rhan 4 (Taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (Codi Tâl ac Asesiadau Ariannol) y Ddeddf yn ymwneud â chodi tâl am wasanaethau.

Mae Rhan 5 o’r Ddeddf (Codi Tâl ac Asesiadau Ariannol) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer codi tâl am wasanaethau Gofal a Chymorth, ac ategir y rhan hon o’r Ddeddf gan reoliadau a chod ymarfer. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â chodi tâl am bob math o ofal gan gynnwys darparu gofal a chymorth a/neu Daliadau Uniongyrchol i berson yn ei gartref ei hun a/neu mewn cartref gofal. Y mae hefyd yn cynnwys taliadau cymorth i ofalwyr. Yn ogystal â hyn, ymdrinnir â materion technegol pellach, gan gynnwys dewis llety ac adennill dyledion.

Mae codi tâl am wasanaethau wedi'u nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn y rheoliadau a'r cod ymarfer a luniwyd o dan y Ddeddf a gaiff eu diwygio o dro i dro, ac a elwir yn 'ddeddfwriaeth' drwy gydol y polisi hwn.

 

3. Canllawiau Gweithredu

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso'r ddeddfwriaeth a nodir gan Lywodraeth Cymru ynghyd â newidiadau a diwygiadau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd.

Os oes gan Sir Gaerfyrddin ddisgresiwn o ran cymhwyso rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth, yna mae’r ddogfen hon yn nodi sut y bydd y rhain yn cael eu defnyddio.

Yr egwyddor gyffredinol yw mai dim ond yr hyn y gallant ei fforddio y bydd gofyn i bobl y gofynnir iddynt dalu ei dalu.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am yr holl wasanaethau a nodir yn y polisi hwn ac yn adolygu'r gwasanaethau y mae'n codi tâl amdanynt o bryd i'w gilydd.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am yr holl wasanaethau a nodir yn y polisi hwn ac yn adolygu’r gwasanaethau y mae’n codi tâl amdanynt o bryd i’w gilydd.

Os codir tâl, yna bydd Sir Gaerfyrddin yn casglu’r taliadau hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth i sicrhau tegwch i bawb er mwyn sicrhau nad yw’r pwrs cyhoeddus yn rhoi cymhorthdal annheg i wasanaethau.

Amlinellir rheolau gweithredol ar gyfer cychwyn neu derfynu pecynnau gofal yn “Atodiad 1”. Mae’r rheolau ar gyfer amrywio taliadau i’r person ag anghenion gofal a chymorth hefyd wedi’u diffinio.

4. Pennu Taliadau am Wasanaethau

Bydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn adolygu ei thaliadau a’r ffioedd y mae’n eu talu i ddarparwyr bob blwyddyn fel rhan o’r broses pennu cyllideb, ond gall eu hadolygu’n amlach, lle bo hynny’n briodol neu’n angenrheidiol. Cyfeiriwch at y taliadau cyfredol yng Nghrynhoad Ffioedd Sir Gaerfyrddin.

 5. Uchafswm Ffi Wythnosol

Wrth godi tâl am wasanaethau dibreswyl, bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio’r uchafswm ffi wythnosol (a elwir yn ‘Gap’) fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd y ffi uchaf yn berthnasol i’r gwasanaethau hynny yr asesir bod person yn eu derbyn. Bydd y ffi uchaf (Cap) yn eithrio'r gwasanaethau hynny a godir ar gyfradd safonol neu a ystyrir yn gostau byw cyffredin a chodir y ffioedd hyn fel tâl ychwanegol.
Ar gyfer lleoliadau cartrefi gofal, y ffi wythnosol uchaf fydd cost lawn y lleoliad.