Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Adolygiadau a Dulliau Apelio
29. Adolygiadau a Dulliau Apelio
Bydd Sir Gaerfyrddin bob amser yn ymdrechu i gynnal asesiad ariannol mewn ffordd gywir a phroffesiynol. Bydd rhai asesiadau ariannol yn ymddangos yn gymhleth, a bydd hyn bob amser yn arwain at ymholiadau ac, mewn rhai achosion, adolygiadau ffurfiol.
Os bydd person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn credu bod canlyniad asesiad ariannol yn anghywir am unrhyw reswm, yna bydd yn gallu cysylltu â’r awdurdod dros y ffôn, drwy e-bost neu’n ysgrifenedig.
Pan dderbynnir ymholiad, bydd fel arfer yn cael ei ystyried gan yr aelod o staff sy’n gyfrifol am yr achos. Os na chaiff y mater ei ddatrys er boddhad y person sydd ag anghenion gofal a chymorth, yna bydd swyddog arall o’r tîm yn adolygu’r ymholiad a’r ymateb cychwynnol.
Os bydd y mater yn dal heb ei ddatrys, yna bydd gan y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yr hawl i ofyn am adolygiad ffurfiol, ond dim ond pan fydd sail eu cais yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth.
Pan wneir cais am adolygiad ffurfiol, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal yr adolygiad yn unol â’r ddeddfwriaeth.
Mae gan bawb sydd ag anghenion gofal a chymorth yr hawl i gael mynediad at drefn gwyno’r awdurdod os ydynt yn anhapus gyda’n gwasanaethau neu am y ffordd y maent wedi cael eu trin. Ni fydd gofyn am adolygiad yn atal person rhag defnyddio’r drefn gwyno.