Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Anfonebu am Daliadau

23. Anfonebu am Daliadau

Ni fydd Sir Gaerfyrddin yn rhoi anfonebau am werth llai na £5.00 gan nad yw’n ymarferol yn economaidd i adennill symiau llai. Fodd bynnag, pan fydd y swm sy’n ddyledus yn fwy na’r swm hwn, bydd anfoneb yn cael ei rhoi. Adolygir y swm hwn o bryd i’w gilydd.