Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Asesiad Ariannol

12. Asesiad Ariannol

Gwahoddir pob person ag anghenion gofal a chymorth sy’n derbyn gwasanaeth y codir tâl amdano, ac eithrio gwasanaethau a ddarperir am ffi cyfradd safonol, i gael asesiad ariannol i benderfynu faint y gall ef/hi fforddio ei dalu am eu pecyn gofal a chymorth asesedig a gomisiynir gan yr awdurdod lleol, neu ar ei ran neu a ddarperir ganddo.

Gall pobl ag anghenion gofal a chymorth benderfynu peidio â datgan eu hasedau ariannol. Mewn achosion o’r fath, codir y ffi briodol ar y person hwnnw am y gwasanaethau yr aseswyd eu bod yn eu derbyn hyd at y ffi uchaf am wasanaeth dibreswyl a chost lawn lleoliad cartref gofal preswyl.

Pan fydd person ag anghenion gofal a chymorth yn datgan ei asedau, gwariant, treuliau ac ati, gofynnir iddo ddarparu dogfennau i gefnogi a galluogi dilysu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall a ddatganwyd ar gyfer yr asesiad ariannol.
Os na ddarperir y dogfennau y gofynnwyd amdanynt, yna bydd y person hwnnw’n cael ei asesu fel pe bai wedi dewis peidio â datgan ei asedau neu unrhyw wybodaeth arall.
Fel arfer, disgwylir i berson sydd ag anghenion gofal a chymorth ddychwelyd gwybodaeth yr asesiad ariannol wedi’i chwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith. Gall person ag anghenion gofal a chymorth wneud cais am estyniad, a bydd Sir Gaerfyrddin yn ystyried unrhyw gais rhesymol, ac os gwrthodir estyniad bydd yn egluro’r rhesymau dros wrthod.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal yr asesiad ariannol ac yn cadarnhau’r canlyniad, ynghyd â dadansoddiad ysgrifenedig o’r cyfrifiad, i’r person sydd ag anghenion gofal a chymorth neu unrhyw berson arall a enwebir ganddynt.

Codir yr holl ffioedd o’r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth(au). Os bydd unrhyw wasanaeth(au) yn newid neu os bydd amgylchiadau ariannol person yn newid, yna bydd unrhyw ffioedd diwygiedig yn cael eu codi o’r dyddiad y digwyddodd y newid.
Bydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn adolygu’r asesiad ariannol yn flynyddol neu’n gynt os bydd rhagor o wybodaeth berthnasol ar gael neu os caiff ei hysbysu am newidiadau yn amgylchiadau ariannol rhywun.

Ni fydd yr asesiad ariannol yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar asesu anghenion gofal neu gymorth person.
Mae’r tâl wythnosol am wasanaethau’n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

Bydd yr awdurdod yn codi tâl yn seiliedig ar lefel gwasanaeth asesedig y person a ddangosir yn y cynllun gofal a chymorth a bydd amrywiadau i’r ffi yn berthnasol fel y nodir yn Atodiad 1. Ni fydd amrywiadau i’r lefel gwasanaeth a aseswyd o reidrwydd yn golygu y bydd y tâl a godir ar y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn gostwng am yr wythnos honno oherwydd y gallai’r person fod wedi cael asesiad ariannol i dalu llai na’r ffi am y gwasanaeth gostyngol.

Codir tâl am rai gwasanaethau cymorth yn seiliedig ar y gwasanaeth a ddarperir i’r sawl sy’n derbyn gofal, e.e. os yw’r Cynllun Gofal a Chymorth yn datgan bod y gwasanaeth ‘hyd at gyfanswm o 2 awr yr wythnos’, codir tâl ar y defnyddiwr gwasanaeth am yr oriau a ddarperir iddo mewn gwirionedd.

Yn yr un modd, bydd gwasanaethau a ddarperir unwaith y bydd anghenion hirdymor wedi’u nodi yn dilyn asesiad yn cael eu codi ar sail y gwasanaethau a ddarperir hyd nes y bydd Cynllun Gofal a Chymorth wedi’i gwblhau.