Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth

Mae'r wythnos codi tâl yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul

DS – Ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl (codi tâl) efallai na fydd y rheolau a nodir isod o reidrwydd yn effeithio ar y swm y mae’r person yn ei gyfrannu bob wythnos; mae’r sawl sy’n derbyn gofal yn talu’r swm lleiaf o:

• Eu cyfraniad a aseswyd yn ariannol
• Y ffi am y gwasanaeth a ddarperir.
• Y ffi wythnosol uchaf (cap)

1. Cychwyn

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Comisiynwyd mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Codi tâl dibreswyl) – bydd cyfanswm yr oriau fesul wythnos yn cael ei rannu â 7 a chaiff y canlyniad ei luosi â nifer y diwrnodau sy’n weddill yn yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Oriau a Gomisiynwyd yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Codi tâl dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a gyflawnwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Gwasanaethau a Gomisiynwyd mewn Sesiynau/Diwrnodau (Codi tâl dibreswyl) – codi tâl am y sesiynau/diwrnodau gwirioneddol a dderbyniwyd gan gynnwys y diwrnod cychwyn (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)

Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Codi tâl dibreswyl) – Codir tâl am nifer y diwrnodau sy’n weddill yn ystod yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn.

Gofal seibiant/tymor byr (Codi tâl dibreswyl) – Codir tâl am nifer y nosweithiau sy’n weddill yn ystod yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn. Os oes Cost Ychwanegol, caiff hyn ei gymhwyso ar gyfer nifer y diwrnodau sy’n weddill yn yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn (pro-rata)

Lleoliad cartref gofal Dros Dro/Parhaol (codi tâl am Ofal Preswyl) – Codir tâl am nifer y nosweithiau sy’n weddill yn ystod yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn (pro-rata), yn seiliedig ar y cyfraniad a aseswyd yn ariannol). Os oes Cost Ychwanegol, caiff hyn ei gymhwyso ar gyfer nifer y diwrnodau sy’n weddill yn yr wythnos gan gynnwys y diwrnod cychwyn (pro-

2. Terfyniadau

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Comisiynwyd mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Codi tâl dibreswyl) – bydd cyfanswm yr oriau fesul wythnos yn cael ei rannu â 7 a chaiff y canlyniad ei luosi â nifer y diwrnodau yn yr wythnos a aeth heibio hyd at y diwrnod cyn y diwrnod terfynu.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Oriau a Gomisiynwyd yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Codi tâl dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a gyflawnwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Gwasanaethau a Gomisiynwyd mewn Sesiynau/Diwrnodau (Codi tâl dibreswyl) – codi tâl am y sesiynau/diwrnodau gwirioneddol a dderbyniwyd hyd at ac yn cynnwys y diwrnod terfynu. (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)

Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Codi tâl dibreswyl) – Codir tâl am nifer y diwrnodau sydd wedi mynd heibio yn ystod yr wythnos hyd at y diwrnod cyn y dyddiad terfynu/dyddiad y cais i dynnu’r gwasanaeth yn ôl.

Gofal seibiant/tymor byr (Codi tâl dibreswyl) – Codir tâl am nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu. Os oes Cost Ychwanegol, caiff hyn ei gymhwyso ar gyfer nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata)

Lleoliad cartref gofal Dros Dro/Parhaol (codi tâl am Ofal Preswyl) – Codir tâl am nifer y nosweithiau a dderbyniwyd hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata), yn seiliedig ar y cyfraniad a aseswyd yn ariannol). Os oes Cost Ychwanegol, caiff hyn ei gymhwyso ar gyfer nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata)

3. Ymweliadau/Gwasanaeth a Gollwyd

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Comisiynwyd mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Codi tâl dibreswyl) – Cyfanswm oriau wedi’u rhannu ag ymweliadau a’u lluosi gyda nifer yr ymweliadau a gollwyd – i’w tynnu o’r pecyn.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Oriau a Gomisiynwyd yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Codi tâl dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a gyflawnwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl – Gwasanaethau a Gomisiynwyd mewn Sesiynau/Diwrnodau (Codi tâl dibreswyl) – Didynnwch y sesiwn/diwrnodau gwirioneddol a gollwyd. (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)

Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Codi tâl Di-breswyl) – Ni chaiff y gwasanaeth ei ddiwygio a chodir tâl amdano am yr holl amser hyd nes y gwneir cais i dynnu’r gwasanaeth/offer.

4. Sesiynau Gofal Dydd

Diffinnir sesiwn gofal dydd fel:

Os derbynnir gwasanaeth cyn 1pm ar unrhyw ddiwrnod ac am unrhyw hyd, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.

Os derbynnir gwasanaeth rhwng 1pm a 6pm ar unrhyw ddiwrnod ac am unrhyw hyd, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.

Os derbynnir gwasanaeth ar ôl 6pm ar unrhyw ddiwrnod ac am unrhyw hyd, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.