Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal

26. Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal

At ddibenion pennu’r gost ychwanegol, bydd y dewis o lety a gynigir i berson ag anghenion gofal a chymorth yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei seilio i ddechrau ar ddau gartref gofal o’r un math ar gyfraddau comisiynu arferol Sir Gaerfyrddin, lle gall y ddau gartref gofal ddiwallu anghenion asesedig y person hwnnw. Lle nad oes 2 gartref gofal ar y gyfradd gomisiynu arferol ar gael, yna’r cartrefi gofal rhataf nesaf yn y sir fydd sail y cyfrifiad.

Pan ddewisir llety sy’n ddrytach na’r opsiynau a gynigir adeg lleoli, bydd y gost ychwanegol yn cael ei chyfrifo o’r uchaf o’r 2 gyfradd a godir gan y ddau gartref gofal a gynigiwyd.

Pan fydd cost ychwanegol yn cael ei hariannu gan drydydd parti ar ran y person sydd ag anghenion gofal a chymorth, yna bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud ymholiadau rhesymol i fodloni ei hun bod y gost ychwanegol yn fforddiadwy ac na fyddai costau o’r fath yn cael eu hysgwyddo gan Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yn ofynnol i’r person sydd ag anghenion gofal a chymorth ddangos bod ganddo’r gallu ariannol i dalu’r costau ychwanegol dros dymor disgwyliedig y lleoliad.

Os nad yw’r trydydd parti yn fodlon darparu tystiolaeth o’r fath neu os nad oes ganddo’r gallu ariannol i dalu’r costau ychwanegol dros gyfnod disgwyliedig y lleoliad, yna ni fydd Sir Gaerfyrddin yn contractio ar gyfer y lleoliad yn y cartref gofal a ddewiswyd.

Ni ddylai’r lleoliad fynd rhagddo yn y cartref gofal a ddewiswyd, os oes ganddo gost ychwanegol, hyd nes y bydd y cytundeb cost ychwanegol sy’n ymrwymo i dalu swm y gost ychwanegol wedi’i lofnodi gan y 3ydd parti.

Mae’r gost ychwanegol yn ychwanegol at gyfraniad ariannol y sawl sy'n derbyn gofal.
Ni all y sawl sy'n derbyn gofal dalu’r gost ychwanegol, oni bai ei fod yn gallu ymrwymo i Gytundeb Taliad Gohiriedig. Ym mhob achos arall, rhaid i 3ydd parti ei thalu.
Pan wneir cais am leoliad y tu allan i’r sir, bydd yr un rheolau’n berthnasol, h.y. bydd y dewis o lety a gynigir i berson ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei seilio i ddechrau ar ddau gartref gofal o’r un math ar gyfraddau comisiynu arferol Sir Gaerfyrddin, lle gall y ddau gartref gofal ddiwallu anghenion asesedig y person hwnnw. Lle nad oes 2 gartref gofal ar y gyfradd gomisiynu arferol ar gael, yna’r cartrefi gofal rhataf nesaf yn Sir Gaerfyrddin fydd sail y cyfrifiad.

Pan fydd person ag anghenion gofal a chymorth, yn unol â’r ddeddfwriaeth, yn gallu talu am gost lawn eu lleoliad, yna gallant ddewis unrhyw gartref gofal a bydd yn ofynnol iddynt dalu cost lawn eu lleoliad gan y bydd Sir Gaerfyrddin yn trin contract o’r fath fel pe bai y tu allan i’w chyfradd gomisiynu arferol oherwydd ei fod yn gontract pwrpasol ac felly nid yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis Llety) (Cymru) 2015 yn berthnasol.

Pan fydd asedau’r person yn disgyn o dan y trothwy sy’n berthnasol ar yr adeg honno ac na allant mwyach ariannu’r trefniadau pwrpasol eu hunain, bydd Sir Gaerfyrddin yn adolygu’r trefniadau lleoli a chontractio ac yn ystyried a oes modd symud y person i ystafell yn yr un cartref gofal heb unrhyw Gostau Ychwanegol, neu Gost Ychwanegol is, neu i gartref gofal arall.

Os gellir symud y person ond ei fod yn dewis aros yn y cartref gofal gwreiddiol, yna bydd Sir Gaerfyrddin yn cysylltu â thrydydd parti i ariannu’r Gost Ychwanegol, ac os bydd hynn yn methu, gall Sir Gaerfyrddin symud y person i gartref gofal arall.

Nid yw Costau Ychwanegol yn berthnasol i gartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn pennu cyfradd safonol yn seiliedig ar gost darparu’r gwasanaeth.