Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal

27. Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal

Nid yw deddfwriaeth dewis yn berthnasol i leoliadau tymor byr/seibiant. Bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael cynnig un cartref gofal sydd ar gael ac sy’n gallu diwallu ei anghenion asesedig. Bydd hyn ar gyfradd gomisiynu arferol Sir Gaerfyrddin.

Os nad oes un cartref gofal ar y gyfradd gomisiynu arferol ar gael, yna bydd y cartref gofal rhataf nesaf yn y sir yn cael ei gynnig.

Os dewisir llety drutach, codir cost ychwanegol.

Mae’r gost ychwanegol yn ychwanegol at gyfraniad ariannol y sawl sy'n derbyn gofal.

Nid yw Costau Ychwanegol yn berthnasol i gartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn pennu ffi safonol yn seiliedig ar gost darparu’r gwasanaeth.