Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol

28. Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol

Bydd y Cyfarwyddwr Cymunedau neu ei olynydd yn gwneud penderfyniadau mewn achosion unigol lle mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu disgresiwn neu’n aneglur, a gall ddirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i uwch swyddog addas fel y bo’n briodol. Wrth ddod i benderfyniad, byddant yn ceisio sicrhau bod y penderfyniad yn deg ac yn gyson a bydd yn golygu bod pawb sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael eu trin yn deg. Ni fydd penderfyniadau o’r fath yn atal person ag anghenion gofal a chymorth rhag gofyn am adolygiad o’r penderfyniad drwy’r broses briodol.