Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Isafswm Incwm
14. Isafswm Incwm(li)
Bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio’r Isafswm Incwm ar lefelau a bennir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar gyfer pob lleoliad mewn cartref gofal.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn talu’r MIA i breswylwyr sy’n byw mewn cartrefi gofal dros dro neu’n barhaol, os nodir hynny ar y contract ar gyfer y lleoliad cartref gofal neu os gofynnir iddynt wneud hynny gan staff rheoli gofal neu berson priodol.
Bydd y MIA yn cael ei adennill oddi wrth y preswylydd o’i incwm ei hun (e.e. budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau); nid yw’n fater i Sir Gaerfyrddin ddarparu MIA iddynt os nad oes ganddynt unrhyw incwm.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio’r Isafswm Incwm (y cyfeirir ato fel y byffer) ar lefelau a bennir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth yr aseswyd eu bod yn derbyn gwasanaethau dibreswyl.
Yn ogystal â’r Isafswm Incwm a bennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau dibreswyl yn unig, ac er mwyn osgoi cwestiynau ymwthiol am wariant anabledd ac anabledd unigolyn ag anghenion gofal a chymorth, bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn caniatáu lwfans/diystyriad ychwanegol ar gyfer gwariant anabledd. Bydd y swm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio fel a ganlyn pan fydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael un o’r budd-daliadau isod:
- Swm o 25% o elfen yn ystod y dydd y Lwfans Gweini (AA), Elfen Gofal Lwfans Byw i'r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol Byw Bob Dydd (PIP) a thaliadau budd-dal sy'n ymwneud â hawl y person i'r Premiwm Anabledd Difrifol
Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn caniatáu fel traul unrhyw wariant y mae person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn ei wario i brynu gofal dibreswyl yn uniongyrchol gan ddarparwr gofal cofrestredig. Mae taliadau a wneir drwy gynllun taliadau uniongyrchol wedi’u heithrio o’r ddarpariaeth hon.