Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Pobl heb Alluedd

19. Pobl heb Alluedd

Os nad oes gan berson alluedd meddyliol, bydd Sir Gaerfyrddin yn cyfathrebu a/neu’n gweithio gyda pherson sydd â’r awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ariannol ar ran y person sydd ag anghenion gofal a chymorth. Lle nad oes awdurdod cyfreithiol o’r fath yn bodoli, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd yr Awdurdod yn ymgysylltu ag aelodau o’r teulu i geisio mecanwaith addas y gall rhywun ei ddefnyddio i weithredu ar ran y person. Ym mhob achos, bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r cod ymarfer.