Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Taliadau Gohiriedig
22. Taliadau Gohiriedig
Os oes gan berson sydd ag anghenion gofal a chymorth eiddo sydd wedi’i gynnwys yn ei asesiad ariannol, yna, mewn rhai amgylchiadau, gall ymrwymo i gytundeb taliad gohiriedig gyda Sir Gaerfyrddin. Os cytunir ar daliad gohiriedig, bydd yn eu galluogi i ohirio talu rhywfaint neu’r cyfan o’u costau gofal, gan gynnwys cyfraniadau Cost Ychwanegol tan ddyddiad diweddarach, fel nad oes yn rhaid iddynt werthu eu heiddo yn syth ar ôl mynd i mewn i gartref gofal. Gall y trefniant hwn ddarparu hyblygrwydd ychwanegol o ran sut a phryd y bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn talu ei gostau gofal.
Bydd y swm y gellir ei ohirio bob wythnos yn cael ei bennu o’r asesiad ariannol. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gohirio taliadau gofal a chymorth sy’n fwy na’r incwm y mae gan y person hawl iddo, gan gynnwys incwm rhent lle mae’r eiddo wedi’i rentu drwy gytundeb ymlaen llaw â Sir Gaerfyrddin.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn cael prisiad proffesiynol ar gyfer eiddo a bydd yn gohirio swm hyd at werth buddiant y person mewn eiddo, llai lwfans ar gyfer costau gwerthu, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Lle bo’n briodol, bydd yr eiddo’n cael ei ailbrisio o bryd i’w gilydd at ddibenion pennu’r swm y gellir ei ohirio.
Cynghorir pobl sy’n ceisio neu sy’n cael cynnig taliadau gohiriedig i geisio cyngor ariannol a/neu gyfreithiol annibynnol i sicrhau bod personau neu eu cynrychiolwyr yn deall telerau cytundeb gohirio taliadau a’r ymrwymiad y maent yn cytuno iddo.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi llog ar symiau a ohiriwyd ar y cyfraddau llog a bennir yn y ddeddfwriaeth. Bydd llog yn daladwy o’r 91fed diwrnod ar ôl i’r Cytundeb Taliad Gohiriedig ddod i ben.
Bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn atebol am unrhyw gostau a wynebir ganddo e.e. ffioedd cyfreithiol, cyngor ariannol, ac ati, i’w alluogi i ymrwymo i’r cytundeb taliadau gohiriedig. Bydd y costau hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd a thaliadau a godir gan yr awdurdod lleol. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi cyfradd safonol am sefydlu Cytundeb Taliad Gohiriedig.
Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi’n fanwl y meini prawf cymhwysedd y mae angen eu bodloni er mwyn i berson ymrwymo i gytundeb taliad gohiriedig, a bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio’r meini prawf cymhwysedd hynny fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.
Wrth gytuno i ymrwymo i gytundeb taliad gohiriedig bydd Sir Gaerfyrddin yn contractio’n uniongyrchol ar gyfer y lleoliad neu’n gorfod gwneud hynny gydag asiantaeth bartner. Ni fydd cytundebau taliadau gohiriedig ar gael i bobl ag anghenion gofal a chymorth sy’n contractio drostynt eu hunain neu drwy drydydd parti neu unrhyw asiantaeth arall.
Os nad yw Sir Gaerfyrddin yn gallu creu arwystl sy’n cael blaenoriaeth cyn unrhyw log neu arwystl arall ar yr eiddo, caiff Sir Gaerfyrddin ystyried ffi safle is os yw’n fodlon bod y ddyled a allai gronni wedi’i sicrhau’n ddigonol, ond mae hyn yn ôl disgresiwn Sir Gaerfyrddin yn unig. Codir llog ar y cyfraddau llog a bennir yn y ddeddfwriaeth. Bydd llog yn daladwy o’r 91fed diwrnod ar ôl i’r lleoliad cartref gofal ddod i ben. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi cyfradd safonol am y trefniant hwn.
Os na all Sir Gaerfyrddin, am unrhyw reswm, greu arwystl ar gyfer yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu, neu’n arfer ei feddiannu, fel eu prif gartref neu eu hunig gartref a’i fod yn fodlon bod yr ased(au) a gynigir fel sicrwydd fel dewis arall yn ddigonol i dalu gwerth y ddyled a gronnwyd am yr amser y bydd y person sydd ag anghenion gofal a chymorth yn y cartref gofal, yna caiff Sir Gaerfyrddin, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ystyried codi arwystl ar dir neu eiddo arall. Codir llog ar y gyfradd gyffredinol o’r 91fed diwrnod ar ôl i’r lleoliad cartref gofal ddod i ben. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi cyfradd safonol am y trefniant hwn.
Os nad yw person ag anghenion gofal a chymorth yn bodloni gofynion y cynllun, yna gwrthodir cais am daliad gohiriedig.
Gall sir Gaerfyrddin wrthod gohirio unrhyw gostau gofal pellach hyd yn oed os oes cytundeb taliad gohiriedig ar waith, ac mewn rhai amgylchiadau bydd yn gwneud hynny. Pan fydd penderfyniad o’r fath yn cael ei weithredu, bydd yn unol â’r ddeddfwriaeth a/neu delerau ac amodau’r cytundeb taliadau gohiriedig a bydd Sir Gaerfyrddin yn egluro sail ei benderfyniad.