Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Taliadau Uniongyrchol

11. Taliadau Uniongyrchol

Bydd person ag anghenion gofal a chymorth sy’n derbyn taliad uniongyrchol yn lle gwasanaeth yn cael ei asesu’n ariannol, a chodir tâl arno yn yr un ffordd â phe darperid y gwasanaeth cyfatebol iddo.

Os yw’r person yn defnyddio ei Daliad Uniongyrchol i brynu gofal a/neu gefnogaeth drwy asiantaeth a bod y ffioedd yn uwch na’r Taliad Uniongyrchol, yna bydd gofyn i’r unigolyn roi swm atodol at ei arian Taliadau Uniongyrchol i dalu am y diffyg. Bydd y swm atodol hwn yn ychwanegol at gyfraniad ariannol y person.