Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Trin Cyfalaf

17. Trin Cyfalaf

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnwys yr holl gyfalaf yn yr asesiad ariannol oni bai fod yn rhaid ei ddiystyru’n benodol yn y ddeddfwriaeth ynghyd ag unrhyw newidiadau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd.

Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn defnyddio’r terfynau Cyfalaf ar gyfer asesiadau ariannol dibreswyl a phreswyl fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd.