Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Ffioedd am Wasnaaethsau a Aseswyd yn Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Trin Eiddo
18. Trin Eiddo
Mae gan Sir Gaerfyrddin ddisgresiwn pellach i ddiystyru prif gartref neu unig gartref, a gall wneud hynny yn yr amgylchiadau canlynol:
- Lle mae'n cael ei feddiannu gan ofalwr sydd wedi ildio ei gartref i fyw gyda defnyddiwr gwasanaeth at y prif ddiben o ofalu am y person hwnnw
- a bod y gofalwr wedi byw yno'n barhaus am gyfnod sylweddol cyn i'r person gael ei dderbyn i'r cartref gofal.
- ac nad yw ef/hi yn berchen arno/â buddiant mewn eiddo arall neu wedi ildio’i denantiaeth os oedd yn byw mewn llety rhent.
- Rhaid i’r person fod wedi cofrestru gyda’r Dreth Gyngor fel un sy’n preswylio yn yr eiddo hwn.
- Dim ond am y cyfnod y mae’r perthynas neu ffrind/cydymaith agos yn parhau i fyw yn yr eiddo y mae’r diystyriad yn berthnasol.
Lle mae perthynas fel y’i diffinnir yn y ddeddfwriaeth neu ffrind/cydymaith agos wedi byw yng nghartref y person sydd ag anghenion gofal a chymorth gartref am eu holl fywyd/y rhan fwyaf o’u bywyd fel oedolyn ac nad yw’n berchen ar unrhyw eiddo arall.
Dim ond am y cyfnod y mae’r perthynas neu ffrind/cydymaith agos yn parhau i fyw yn yr eiddo y mae’r diystyriad yn berthnasol.
Mae’r hyn sy’n gyfystyr â ‘ffrind/cydymaith agos’ ac ‘eu holl neu ran fawr o’u bywyd fel oedolyn’ yn y paragraff hwn, yn destun disgresiwn Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.