Y Ganolfan Byw’n Annibynnol
Mae’r Ganolfan Byw’n Annibynnol yn fan lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau a gweld y cynhyrchion sydd ar gael i helpu gyda symudedd ac annibyniaeth. Nid yw’r ganolfan yn gwerthu nac yn hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau; y cyfan y mae’n ei ddarparu yw gwybodaeth a chanllawiau ar gymhwysedd a’r hyn sydd ar gael drwy’r broses presgripsiwn ar gyfer offer cymunedol, a ddarperir gan Wasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin.
Oriau agor
Rydym yn cynnig apwyntiadau 30 munud wedi'u harchebu ymlaen llaw ac yn awgrymu eich bod yn mynychu gyda gweithiwr proffesiynol cymwys:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am i 2.30pm
Mae ein gwasanaethau ar gael i’r canlynol:
- Unigolion â phresgripsiwn ar gyfer offer cymunedol
- Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
- Gofalwyr
- Teuluoedd
- Darparwyr gwasanaethau
- Unigolion a allai elwa ar y gwasanaeth
Cyfleusterau
Rydym yn darparu'r cyfleusterau canlynol:
- Parcio am ddim ar y safle
- Mannau parcio hygyrch a phwrpasol i bobl anabl (does dim angen dangos eich bathodyn glas)
Gwasanaethau a gynigir
Yn yr ILC, rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:
- Hyfforddiant ar gyfer unigolion sy’n rhoi presgripsiynau am offer cymunedol
- Cyfle i ddarparwyr gwasanaethau, fel darparwyr gofal cartref, weld a defnyddio offer cymunedol
- Cyfle i unigolion weld a deall sut y gall offer cymunedol newid eu trefniadau byw
- Llogi ystafelloedd ar gyfer cwmnïau preifat neu sefydliadau elusennol.
Gwybodaeth archebu
I archebu apwyntiad neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:
- Cyfeiriad e-bost: CICES@sirgar.gov.uk
- Rhif ffôn: 01554 744 359