Cartrefi Gofal

Rydyn ni’n gweithredu saith cartref gofal preswyl yn Sir Gâr:

  • Awel Tywi
  • Dol Y Felin
  • Maesllewelyn
  • Y Bwthyn
  • Y Plas
  • Caemaen
  • Llys y Bryn

Mae ein cartrefi yn darparu gofal preswyl 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i oedolion hŷn, gan gynnig amgylcheddau diogel a chefnogol wedi’u teilwra i anghenion unigol.

Rydyn ni’n cefnogi pobl gyda:

  • anghenion sy’n gysylltiedig ag oedran
  • anableddau corfforol
  • dementia
  • cyflyrau iechyd tymor hir

Rydyn ni’n ymrwymo i ddarparu gofal tosturiol, canolog i’r unigolyn sy’n hyrwyddo urddas, annibyniaeth a lles.

Mae ein holl gartrefi gofal wedi’u cofrestru gyda, ac yn cael eu harolygu gan, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae AGC yn cynnal arolygiadau rheolaidd i sicrhau ein bod yn bodloni safonau gofal, diogelwch, staffio ac ansawdd. Ar ôl pob arolygiad, mae AGC yn cyhoeddi adroddiad sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’r adroddiadau hyn yn helpu teuluoedd a thrigolion i wneud penderfyniadau gwybodus am ofal.

Gallwch ddod o hyd i’r rhain yma:

 CIW Webpage