Cyfleoedd Dydd i Oedolion ag Anableddau Dysgu, Anableddau Corfforol, Cyflyrau Niwroamrywiol, ac Anghenion Iechyd Meddwl

Rydym yn cynnig cyfleoedd cymunedol mewn adeiladau i oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, cyflyrau niwrowahanol, a chyflyrau iechyd meddwl ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae gennym wasanaethau mewn adeiladau yn:

  • Ffordd y Faenor, Rhydaman
  • Coleshill, Caemaen, Maeslliedi yn Llanelli
  • Tre Ioan, Caerfyrddin

Rydym yn defnyddio cyfleusterau cymunedol lleol e.e. canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, llwybr yr arfordir a gerddi/parciau cyhoeddus. Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ystyrlon, gan gynnwys coginio, garddio, cerdded, chwaraeon, cerddoriaeth, crefftau, therapïau, a phrofiadau synhwyraidd.

Mae ein dull person-ganolog yn canolbwyntio ar greu amgylchedd cefnogol sy'n adeiladu ar gryfderau unigol. Mae hyn yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu, meithrin sgiliau, ennill annibyniaeth, a gwella eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol.

📥Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

I gael y cymorth hwn, bydd angen i chi gael asesiad o'r angen. Mae mwy o wybodaeth am asesiadau ar gael yma: Sut i gael help  

Bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch gweithiwr cymdeithasol/rheolwr gofal. Yna mae'n bosibl y cewch gynnig asesiad Gofal.

Os ydych yn gymwys i gael gwasanaethau, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich cynllun gofal. Efallai y bydd tâl a byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol a fydd yn penderfynu faint y bydd angen i chi gyfrannu tuag at eich gofal. Gofalwch gynnwys gwybodaeth am asesiad ariannol a chynllun gofal. 

Cyn bod eich gwasanaeth yn dechrau, bydd cyfle gennych i ymweld â'n gwasanaethau ac i gwrdd â staff i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i chi. 

❤️Ein Haddewid a'n Pwrpas

Cymunedau yn Cefnogi oedolion i dyfu, datblygu a theimlo'n ddiogel, gan berthyn i'w cymuned.