Brett a Wendy: Dathlu 30 Mlynedd o Faethu
Cwrdd â Brett a Wendy
Mae Brett a Wendy wedi nodi 30 mlynedd anhygoel o ymroddiad i faethu gyda Chyngor Sir Caerfyrddin! Dechreuodd eu taith faethu ym 1994, ar ôl symud i ran wledig o Sir Gaerfyrddin o Swydd Gaerloyw ym 1984 gyda’u dau blentyn ifanc.
Ar ôl i’w plant ymgartrefu mewn ysgolion lleol, gwnaeth Wendy, a oedd â phrofiad fel gwarchodwr plant ac a oedd yn gweithio mewn ysgol arbennig i blant ag anableddau, gymryd eu cam cyntaf ar eu taith faethu – gan fynd at yr awdurdod lleol ynghylch dod yn ofalwyr maeth, ac nid ydynt erioed wedi edrych yn ôl!
Tan yn ddiweddar, bu Brett a Wendy yn gweithio’n llawn amser wrth faethu hefyd. Roedd Wendy yn gweithio mewn ysgol, a oedd yn caniatáu iddi fod adref yn ystod gwyliau, gan roi amser iddi ofalu am eu plant maeth a’u cludo nhw a’u hwyrion i ysgolion lleol..

Teulu Brett a Wendy
Un o gryfderau mwyaf Brett a Wendy fel gofalwyr maeth yw eu gallu i groesawu grwpiau o frodyr a chwiorydd i’w cartref, gan helpu i gynnal y cysylltiadau rhyngddynt.
“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa o allu cymryd grwpiau o frodyr a chwiorydd, sy’n gallu bod yn llawer gwell i’r plant yn eich gofal.” meddai Wendy.
Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi maethu 32 o blant, llawer ohonyn nhw’n dal i gadw mewn cysylltiad! Wrth ychwanegu at eu teulu, mabwysiadodd y cwpl ddau frawd, 6 a 7 oed ar y pryd, sydd bellach yn eu tridegau.
Tyfodd dynameg eu teulu ymhellach yn 2008 pan symudodd eu merch, Emma, a’i theulu yn ôl i fyw gyda nhw. Bu Brett a Wendy yn trosi hen feudy yn gartref i Emma, ei gŵr Carwyn, a’u dau fab, gan greu aelwyd aml-genhedlaeth lle daeth y plant maeth yn rhan o rwydwaith teuluol ehangach. Mae eu hwyrion, sydd bellach yn 18 a 15 oed, wedi bod yn allweddol wrth groesawu plant maeth i’r cartref.
Mae dau frawd Wendy a’u teuluoedd yn byw yn lleol, ac maen nhw hefyd yn chwarae rhan fawr o ran maethu, cynnig cefnogaeth a darparu ymdeimlad o berthyn i’r plant.
Mae teulu estynedig Brett yn Swydd Gaerloyw hefyd yn ymweld yn aml, gan roi profiad hyd yn oed ehangach o fywyd teuluol i’r plant.
Trin Pob Plentyn Fel Teulu
Mae Brett a Wendy yn angerddol iawn am wneud i bob plentyn y maent yn gofalu amdano deimlo fel rhan o’u teulu. Maen nhw’n mynd y tu hwnt i hyn i gynnwys y plant ym mhob gweithgaredd teuluol – o wyliau i deithiau dydd i gyfarfodydd teuluol bob dydd. Mae cyfranogiad eu teulu estynedig yn helpu plant maeth i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn rhan o rywbeth mwy.
I’r cwpl, nid gofal yn unig yw maethu, mae’n ymwneud â rhoi cyfleoedd i blant dyfu, ffynnu a phrofi bywyd i’r eithaf. P’un a yw’n cerdded, beicio, nofio neu chwaraeon tîm, mae Brett a Wendy yn annog y plant yn eu gofal i roi cynnig ar weithgareddau newydd a magu hyder.
Pwysigrwydd Aros yn Lleol
Mae Brett a Wendy hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd aros yn lleol. Mae’r gefnogaeth bwrpasol gan yr awdurdod lleol wedi helpu Brett a Wendy i lywio cymhlethdodau maethu a gweithio tuag at y canlyniadau gorau i bob plentyn.
“Rydym wedi gweld bod aros o fewn ein hawdurdod lleol yn bwysig gan ein bod ni wedi cael cysondeb gyda staff – rhai ohonyn nhw wedi bod yno cyhyd â ni.
“Maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi’r plant yn eu gofal a chanfod y canlyniad gorau i’w sefyllfaoedd.
“Mae’n gwneud ein rôl yn haws pan fydd gennym dîm o bobl yr ydym yn gwybod eu bod yn gweithio er budd gorau’r plant yn ein gofal” meddai Wendy.
Eiliadau Cofiadwy
Ymysg eu profiadau mwyaf cofiadwy mae cefnogi person ifanc o 11 oed drwy nifer o drawsnewidiadau sylweddol mewn bywyd.
“Yn ddiweddar fe wnaethon ni gefnogi person ifanc o 11 oed drwy’r ysgol, profedigaeth, y coleg, symud i lety byw â chymorth, cael swydd, ac mae bellach wedi symud i’w fflat ei hun yn nhref Caerfyrddin lle cafodd ei fagu.” Mae Wendy yn adlewyrchu’n falch.
Atgof melys arall yw meithrin dau blentyn sydd wedi bod gyda nhw ers dros dair blynedd bellach.
“Maen nhw wedi setlo yn yr ysgol ac maen nhw’n rhan fawr o’n teulu ni ac wedi dod yn rhan fawr o’n teulu estynedig.” meddai Brett.
Maen nhw’n cydnabod nad yw maethu heb ei heriau, ond mae eu dull gweithredu – sydd wedi’i wreiddio mewn amynedd, cariad, a dealltwriaeth – wedi helpu plant i dyfu ar eu cyflymder eu hunain.
Dod o Hyd i Lawenydd mewn Dechreuadau Newydd
Mae Brett a Wendy hefyd wedi maethu babanod sydd wedi cael eu mabwysiadu, ac er y gall fod yn heriol gadael iddyn nhw fynd, maen nhw’n ei chael hi’n werth chweil gwybod eu bod wedi rhoi dechrau cryf mewn bywyd i’r plentyn. Mae eu gwytnwch a’u hymroddiad yn tystio i’r cysylltiadau dwfn y maent wedi’u meithrin gyda’r plant y maent wedi’u maethu.
Mae eu hetifeddiaeth fel gofalwyr maeth wedi’i gwreiddio mewn cariad, teulu, a chymuned – stori lwyddiant wirioneddol sy’n parhau i siapio bywydau plant yn Sir Gaerfyrddin.
Ydy profiad Brett a Wendy wedi eich ysbrydoli i feddwl am faethu?
Os yw stori Brett a Wendy wedi eich ysbrydoli i ystyried maethu a darparu gofal i blant sydd ei angen, cysylltwch â ni heddiw. Gallech gynnig y cariad, y gefnogaeth a’r sefydlogrwydd a all newid bywyd plentyn.