Cynllun Grantiau Bach Seilwaith Gwyrdd a Glas dan arweiniad y Gymuned
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/05/2025
Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i rymuso grwpiau cymunedol lleol, elusennau a mentrau cymdeithasol i wella mannau awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin. Trwy'r cynllun hwn, ein nod yw creu amgylcheddau gwyrddach, mwy cynaliadwy a hygyrch sydd o fudd i bobl, lle a natur.
Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae cyfanswm o £39,000 ar gael i brosiectau cymwys.
I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch y cwymplenni isod a lawrlwythwch ddogfen ganllawiau'r cynllun.
Mae ffurflenni cais a gwybodaeth gyswllt ar gael ar waelod y dudalen.
*** Cyflwynwch eich ceisiadau erbyn dydd Gwener 6 Mehefin 2025***
Gall ymgeiswyr cymwys wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £3,000, sy'n talu hyd at 100% o gyfanswm costau'r prosiect. Nid oes angen arian cyfatebol, ond bydd cyfraniadau ychwanegol yn cael eu hystyried yn gadarnhaol.
Mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail ad-daliad, sy'n golygu bod rhaid i ymgeiswyr dalu am wariant cymeradwy ymlaen llaw a chyflwyno cais am ad-daliad.
Mae hon yn gronfa gyfalaf yn unig , sy'n golygu y gellir defnyddio cyllid i brynu offer, seilwaith, neu wneud gwelliannau ffisegol sy'n gysylltiedig â Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) cymunedol. Mae enghreifftiau o brosiectau cymwys yn cynnwys:
- Gerddi cymunedol a mannau tyfu - gosod gwelyau blodau, polidwnneli, plannu cynnyrch y mae modd ei bwyta.
- Ardaloedd chwarae a dysgu yn awyr agored - creu mannau naturiol, rhyngweithiol i blant.
- Plannu coed a blodau gwyllt - gwella bioamrywiaeth a mannau sy'n denu pryfed peillio.
- Gwell mannau cyhoeddus - meinciau, raciau beiciau, llwybrau natur, ac arwyddion cyfeirio.
- Ardaloedd gwyrddu trefol - gerddi fertigol, toeau gwyrdd, neu blannu coed trefol.
Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag o leiaf un o'r pum amcan allweddol:
- Gwella Mannau Gwyrdd Cymunedol
- Gwella Bioamrywiaeth a Mynediad at Natur
- Hyrwyddo Creu Lleoedd ac Adfywio Canol Trefi
- Lliniaru Llygredd Amgylcheddol
- Arddangos Datrysiadau Seilwaith Gwyrdd a Glas Arloesol
Mae'r cynllun yn berthnasol i grwpiau cyfansoddedig, elusennau cofrestredig, ysgolion a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Rhaid i'r prosiectau fod yn un o'r prif ganolfannau (Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman) neu'r Deg Tref (Crosshands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf)
Rhaid i ymgeiswyr gael gweithdrefnau llywodraethu a rheoli ariannol priodol ar waith a dangos budd cymunedol clir.
Rhaid i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno ffurflen gais lawn yn manylu ar fanylion eu sefydliad, crynodeb y prosiect, lleoliad, costau dangosol, ac unrhyw gyllid ychwanegol a geisir.
Mae'r ffenestr ymgeisio yn agor ar 12 Mai 2025 ac yn cau ar 6 Mehefin 2025.
Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu hannog i wneud cais. Noder na fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os hoffech drafod eich syniad prosiect.
Ar ôl i'r ceisiadau gael eu hasesu, bydd y rhai llwyddiannus yn derbyn 'Llythyr Cynnig' yn amlinellu telerau ac amodau'r dyfarniad (yn amodol ar gyflwyno unrhyw wybodaeth berthnasol, os gofynnir amdani). Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael gwybod.
Rhaid cwblhau a hawlio pob prosiect cymeradwy erbyn 31 Hydref 2025.