Prif ddiffiniadau: hawliadau yswiriant
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/12/2025
- Hawliad Yswiriant
Cais ffurfiol i Gyngor Sir Caerfyrddin neu ei yswirwyr yn gofyn am iawndal am golled, difrod neu anaf rydych chi'n credu y cafodd ei (h)achosi gan esgeuluster y Cyngor. - Hawliwr
Y person, y busnes neu'r sefydliad sy'n gwneud yr hawliad. - Esgeuluster
Pan fydd rhywun yn methu â chymryd gofal rhesymol, gan arwain at niwed, difrod neu anaf i berson arall neu ei eiddo. - Atebolrwydd Cyhoeddus
Yswiriant sy'n cwmpasu anaf neu ddifrod i drydydd partïon neu eu heiddo oherwydd gweithredoedd y Cyngor neu ei fethiant i weithredu. - Colled
Y niwed, difrod neu'r gost ariannol rydych chi'n hawlio amdano/amdani. - Tystiolaeth
Dogfennau, ffotograffau, datganiadau tystion, anfonebau, derbynebau neu dystiolaeth arall sy'n cefnogi eich hawliad. - Setliad
Y taliad terfynol y cytunwyd arno neu ddatrys hawliad. - Amserlen
Y cyfnod disgwyliedig i'ch hawliad gael ei adolygu a'i ddatrys. - Hawliad Twyllodrus
Hawliad a wneir gan ddefnyddio gwybodaeth ffug neu gyda'r bwriad o dwyllo. - Polisi
Y contract yswiriant ysgrifenedig ffurfiol rhwng y Cyngor a'i yswiriwr, sy'n amlinellu beth sy'n cael ei gwmpasu ac o dan ba amodau. - Triniwr Hawliadau
Aelod o Dîm Yswiriant y Cyngor sy'n rheoli camau cyntaf eich hawliad ac yn cydgysylltu â chi, yr Addaswyr Colledion ac adrannau eraill. - Addaswyr Colledion
Gweithwyr yswiriant proffesiynol annibynnol a benodir gan y Cyngor i ymchwilio i'ch hawliad a'i asesu. Maent yn casglu ffeithiau, yn archwilio difrod, ac yn argymell canlyniad teg yn seiliedig ar y polisi. Maent yn ddiduedd ac nid ydynt yn cynrychioli'r naill ochr neu'r llall. - Gwrthod
Pan fydd hawliad yn cael ei wrthod yn ffurfiol, bydd hynny fel arfer oherwydd nad yw'r Cyngor yn gyfreithiol gyfrifol. - Cynnig Setlo
Swm arfaethedig o iawndal a gynigir i'r hawlydd os derbynnir atebolrwydd. - Cynrychiolaeth gyfreithiol
Cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol y gallwch ei benodi i helpu gyda'ch hawliad. Mae hyn yn ddewisol ac nid yw'n angenrheidiol i wneud hawliad. - Taliad BACS
Dull trosglwyddiad banc a ddefnyddir i dalu setliadau yn uniongyrchol i'ch cyfrif.
