Prosiect Ansawdd Aer
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/07/2025
Yn ystod Tymor y Gwanwyn, bu i 25 o ddysgwyr ym Mlwyddyn 6 edrych ar y cwestiwn 'O beth mae aer Llandeilo wedi'i wneud?' Roedd y disgyblion eisiau darganfod a fyddai 'Wythnos Cerdded i'r Ysgol' yn effeithio ar nifer deunyddiau gronynnol 1, 2.5, a 10 sydd yn yr aer yn Llandeilo yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol.
Beth wnaethoch chi a faint o ddisgyblion oedd yn rhan o hynny?
Fel rhan o'n hymchwiliad, o'r enw 'O beth mae e wedi'i wneud?', dangosodd disgyblion ddiddordeb yn yr aer ac yn enwedig llygredd sy'n cael ei greu'n lleol. Cynhaliodd pob un o'r 25 disgybl ym Mlwyddyn 6 ymchwil i'r gwahanol fathau o lygredd yn yr aer y gallai'r monitorau ansawdd aer eu canfod.
Lluniodd grŵp o ddisgyblion boster i hyrwyddo ein 'Wythnos Cerdded i'r Ysgol’. Cafodd y poster ei rannu yn ystod ein gwasanaeth ysgol ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel dosbarth, fe wnaethon ni drafod y mathau o lygredd roeddem am eu mesur a chanolbwyntio arnynt yn ein hymchwil. Penderfynodd y disgyblion ganolbwyntio ar y tri math o ddeunydd gronynnol oherwydd yr effaith eithafol gallant ei chael ar iechyd pobl ifanc, pobl oedrannus, a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.
Fe wnaethon ni benderfynu casglu data am adegau gollwng a chasglu'r ysgol, gan mai dyma pryd byddai holl ddisgyblion ein hysgol yn cerdded o gwmpas y gymuned. Fe wnaethom gasglu, cynrychioli a dadansoddi data ar gyfer wythnos gyntaf mis Chwefror, a chymharu hyn â'r data a gasglwyd yn ystod 'Wythnos Cerdded i'r Ysgol’. Roedd angen i'r disgyblion gymharu nifer deunyddiau gronynnol 1, 2.5, a 10 o'r ddwy set o ddata. Defnyddiodd y disgyblion Microsoft Excel i gyflawni hyn.
Am wythnos ym mis Chwefror, cyfarfu athrawon a staff addysgu â disgyblion a'u teuluoedd yng ngorsaf reilffordd Llandeilo, gan greu 'Bws Cerdded' i'r ysgol. Fe wnaethom annog ein disgyblion naill ai i gerdded a chwrdd â ni yn yr orsaf neu, os ydynt yn byw y tu allan i Landeilo ac yn gorfod gyrru i'r ysgol, i yrru i'r orsaf a cherdded gweddill y pellter.
A yw'r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a/neu'ch cymuned?
Mae'r disgyblion ym Mlwyddyn 6 wedi bod yn chwilfrydig iawn i ddysgu rhagor am y llygryddion yn aer Llandeilo, a sut maen nhw'n cyfrannu at y llygredd hwnnw. Fel dosbarth, roeddem yn falch o weld bod yr 'Wythnos Cerdded i'r Ysgol' wedi arwain at ostyngiad ym mhob un o'r tri math o ddeunydd gronynnol sy'n bresennol yn yr awyr yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol.
Fel dosbarth, trafodom ffyrdd o barhau i leihau'r llygredd aer rydym yn ei greu. Roedd llawer o ddisgyblion yn frwd dros ben ac eisiau rhannu hyn gyda'r gymuned. O ganlyniad, lluniodd pob disgybl dudalen we i gyflwyno ac egluro eu canfyddiadau, a fydd yn cael eu rhannu gyda'r gymuned leol ar ôl hanner tymor.
Sut ydych chi wedi mesur llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Rydym yn gwybod bod y prosiect hwn yn llwyddiannus gan fod yr holl ddisgyblion wedi gallu cynrychioli, dadansoddi a chymharu'r data a gasglwyd gennym. Mae pob disgybl bellach yn gwybod sut mae llygredd yn cael ei greu ac am ffyrdd o leihau hyn.
Fel y soniwyd, ein cam nesaf yw rhannu ein canfyddiadau â'r gymuned leol a gweddill yr ysgol.
Fel staff, rydym hefyd wedi trafod gweithredu 'Diwrnodau Cerdded i'r Ysgol' rheolaidd lle gallwn barhau â llwyddiant y prosiect hwn a hybu mwy o ddisgyblion a theuluoedd i gerdded i'r ysgol, neu barcio y tu allan i ganol Llandeilo a cherdded gweddill y ffordd.
Beth wnaethoch chi a faint o ddisgyblion oedd yn rhan o hynny?
I ddechrau, edrychodd y Pwyllgor Eco ar y data. Cawsant sioc gan y cynnydd yn ystod amseroedd gollwng yr ysgol, ac yn fwy felly gan y cynnydd enfawr a achoswyd gan dân bychan ar randir.
Gwnaethant gynllun gweithredu a oedd yn cynnwys gwasanaethau ysgol a phosteri. Anfonodd y disgyblion holiadur MS forms i rieni yn gofyn am eu barn. Yna cafodd hyn ei ymestyn i fod yn brosiect ysgol gyfan a oedd yn cynnwys yr holl ddisgyblion o'r Flwyddyn Dderbyn i Flwyddyn 6. Golygai hyn fod 210 o blant wedi cymryd rhan.
Rhoddwyd strwythur i'w ddilyn i'r plant yn ystod eu gwaith ffocws. Gofynnwyd iddynt ymchwilio beth yw ansawdd aer a ffynonellau llygredd aer.
Gan ddefnyddio'r data o'r monitor ansawdd aer, ymchwiliodd plant Cyfnod Allweddol 2 yn ddyfnach i ansawdd aer lleol, tueddiadau a ffynonellau.
Bu'r ysgol gyfan yn ymchwilio i atebion a chawsant yr her o gyflwyno'r rhain mewn ffyrdd apelgar a difyr, i ysbrydoli eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.
Roedd pob dosbarth yn croesawu'r prosiect ac wedi cynnal ystod o weithgareddau; rhestrir enghreifftiau isod.
- Gwneud cynwysyddion llaeth plastig wedi'u huwchgylchu i wneud blychau plannu bodau i dyfu mefus ynddynt. Mae hyn yn helpu i leihau milltiroedd bwyd ac yn ailddefnyddio plastig.
- Arolygon: sut rydym yn teithio i'r ysgol a thraffig.
- Posteri.
- Ffeithluniau.
- Ysgrifennu a pherfformio Rap am lygredd aer.
- Barddoniaeth
- Taflenni i gynnig syniadau i helpu i wella ansawdd yr aer.
- Adroddiadau ar achosion llygredd aer a beth gellir ei wneud amdanynt.
- PowerPoints ar ansawdd aer yn y gymuned leol a chymariaethau ag ansawdd aer byd-eang.
A yw'r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a/neu'ch cymuned?
Mae'r prosiect wedi troi'n rhywbeth llawer mwy nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae hyn wedi'i ysgogi gan ddisgyblion. Mae'r prosiect wedi ennyn angerdd ac ymrwymiad ymysg y disgyblion i raddau nad oedd y staff yn ei ddisgwyl.
Mae'r ymateb i holiadur y rhieni yn dangos bod diddordeb yn y pwnc hwn a bod potensial i rieni gyfrannu ymhellach.
Mae disgyblion wedi gwneud rhieni'n fwy ymwybodol, ac maen nhw'n fwy tebygol o gymryd camau i wella ansawdd aer yn y cartref.
Yn yr ysgol mae'r disgyblion yn dangos gwell dealltwriaeth o sut gallwn ni fynd i'r afael â llygredd aer.
Rydym yn gweld disgyblion yn gwneud pethau o ddydd i ddydd fel diffodd goleuni ac yn dangos mwy o frwdfrydedd ynghylch ailgylchu ac ailddefnyddio.
Mae'r disgyblion wedi gofyn am ddiwrnod cerdded i'r ysgol ar Ddiwrnod Aer Glân ar 6 Mehefin 2024. Maen nhw'n mynd i geisio cael y gymuned ehangach i gymryd rhan trwy ledaenu'r gair ar cyfryngau lleol a thrwy gynnwys ysgolion lleol eraill.
Maen nhw'n awyddus i edrych ar effaith y diwrnod cerdded i'r ysgol/i'r gwaith ar ansawdd yr aer lleol.
Mae'r disgyblion wedi cael eu hysbrydoli a'u cymell yn fawr gan y prosiect hwn ac maent eisoes yn gofyn pryd fydd yr wythnos ffocws nesaf.
Sut ydych chi wedi mesur llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Mae cyfraniad y disgyblion wedi bod yn ddangosydd llwyddiant mawr. Mae disgyblion eisiau gwneud mwy na'r gwaith wnaed yn ystod yr wythnos ffocws.
Y diwrnod cerdded i'r ysgol ar Ddiwrnod Aer Glân Cymru 20 Mehefin 2024 yw ein cam nesaf. Mae disgyblion eisiau ceisio cynnwys ysgolion eraill a busnesau lleol. Maen nhw'n cynllunio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ac am ddosbarthu taflenni. Mae blynyddoedd 5 a 6 wedi dweud eu bod yn gyffrous ynghylch edrych ar yr effaith y mae'r diwrnod hwnnw'n ei chael ar ddata'r monitor ansawdd aer.
Rydym am gadw'r sgwrs am ansawdd aer i fynd, felly byddwn yn integreiddio pynciau ansawdd aer yn ein cwricwlwm arferol. Byddwn yn annog cyfranogiad parhaus trwy glybiau a chynghorau ysgol.
Ein bwriad yw cynnal wythnosau ffocws i'r ysgol gyfan yn rheolaidd i barhau i adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i gyflawni yn yr wythnos ffocws hon.
Ymwelodd un ar ddeg o ddisgyblion â'r Senedd ac arddangos eu gwaith fel rhan o Her Hinsawdd Cymru. Maent eisoes yn cynllunio'r Prosiect Her Hinsawdd nesaf.
Beth wnaethoch chi a faint o ddisgyblion oedd yn rhan o hynny?
Nod y prosiect oedd helpu ein hysgol i:
- Lleihau llygredd aer o'n gweithrediadau ni ein hunain.
- Mynd i'r afael â llygredd aer wrth gât yr ysgol, gan gynnwys y daith i'r ysgol.
- Addysgu'r genhedlaeth nesaf i'w helpu nhw a'u teuluoedd i wneud dewisiadau aer glanach.
- Dod yn arweinydd lleol ar lygredd aer, gan weithio gyda phartneriaid lleol i wella ansawdd aer yn yr ardal leol.
Fe wnaethom ni ddefnyddio'r data a gasglwyd gan yr 'Earth Sense Zephyr', sef Monitor Ansawdd Aer a thiwb tryledu NO2, a osodwyd ym mis Awst 2023, gyda chymorth Lisa Jones ac Amy James o dîm Diogelu'r Amgylchedd yr Awdurdod Lleol.
- Penderfynom sefydlu Carfan Ansawdd Aer yn cynnwys Mrs Griffiths fel arweinydd y prosiect, y ddau aelod o'r Cyngor Ysgol sydd ym Mlwyddyn Chwech a'r ddau aelod o'r Cyngor Eco sydd yn Blwyddyn Chwech, i sefydlu nodau CAMPUS, cynllun gweithredu, a chwrddom bob pythefnos i werthuso'r prosiect a nodi ein camau nesaf.
- Fe wnaethom fynychu cyfarfod Grŵp Ymgynghori Gweithredu er budd yr Hinsawdd yr Awdurdodau Lleol o bell ym mis Ionawr a rhoddodd hyn syniadau pellach i ni o ran gwella ansawdd aer yn ein hysgol.
- Bu i B6 gasglu data o ddangosyddion ansawdd aer ym myd natur trwy gynnal arolwg cen ar dir yr ysgol. Roedd hyn yn golygu y gallem weithio allan a oedd yr aer o amgylch yr ysgol wedi'i lygru trwy edrych ar y mathau o gen oedd yn tyfu, gan fod cennau sensitif i nitrogen yn byw mewn aer glân yn unig a bod cennau sy'n hoff o nitrogen yn gallu byw mewn aer budr.
- Ymunodd yr ysgol gyfan â menter 'WOW Living Streets' ym mis Chwefror 2024 dan arweiniad Mr Phillips, lle roeddem yn casglu data bob dydd i gynyddu gweithgarwch trwy gerdded, beicio, sgwtera neu ddefnyddio parcio a chamu.
- Cwblhaodd tri o'r garfan Ansawdd Aer ddadansoddiad data ar nifer y ceir oedd yn segur am 8am, 8.30am a 9am y tu allan i'r ysgol.
A yw'r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a/neu'ch cymuned?
Fe wnaethom ddadansoddi'r data gydag Amy a Lisa o asiantaeth yr Amgylchedd rhwng Awst a Mawrth. Canfuom fod graff NO2 yn dangos y canlyniadau cyfartalog dyddiol NO2 ar gyfer y cyfnod monitro (Awst i Chwefror). Lefelau Uchaf NO2 ar 15 Ionawr am 7pm, 18 Ionawr am 10am, 19 Ionawr am 10am (gwasanaeth dosbarth B4 yn y neuadd), 1af Chwefror am 9am. Canllaw blynyddol dyddiol a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer NO2, sy'n golygu eu bod yn argymell y dylai lefelau dyddiol fod yn is na 25μg/m3.
Canlyniadau Nitrogen Deuocsid a Gronynnau bob awr (PM10 a PM2.5). Er nad oes diwrnod nodweddiadol (weithiau oherwydd y tywydd), mae'n bosibl gweld y brigau bach mewn Nitrogen Deuocsid ar adegau penodol o'r dydd, yn enwedig tua 9am a rhwng 4 a 6pm ar ddiwrnodau'r wythnos. Mae brigau dydd Sadwrn yn wahanol iawn, yn ystod y prynhawn, o bosib oherwydd gemau rygbi a thenis.
Fe wnaethom gymharu amseroedd y tymor ysgol â'r gwyliau ysgol. Dangosodd y canlyniadau fod lefelau diwrnodau'r wythnos ym mis Awst yn is na mis Medi yn ystod y tymor (ac eithrio'r penwythnos). Ond eto'i gyd, ym mis Chwefror roedd crynodiadau Nitrogen Deuocsid yn uwch yn ystod wythnos hanner tymor (12 i 18 Chwefror), o gymharu â'r wythnos ysgol (19 i 25 Chwefror). Yn ddiddorol ddigon, nid oes fawr ddim gwahaniaeth ar ddydd Iau.
Thema Blwyddyn 6 ar gyfer Tymor y Gwanwyn oedd 'Ein Planed, Ein Cefnforoedd – Sut mae lefelau'r môr yn effeithio ar ein planed?' Fe wnaethom ymchwilio i effeithiau Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd ar y Blaned, ei hecosystemau a'n dyfodol. Rydym wedi dysgu am effeithiau llosgi tanwydd ffosil ar anifeiliaid, lefelau'r môr, hinsawdd ac ansawdd aer. Rydym wedi dod i'r casgliad bod cyfrifoldeb arnom i wneud newidiadau bach er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr i'n planed – yr anifeiliaid, ansawdd yr aer, lefelau'r môr a'r hinsawdd. Mae gennym un Byd; mae angen inni ei warchod ar gyfer ein dyfodol a chenedlaethau'r dyfodol.
Ym mis Chwefror 2024 fe wnaethom ddechrau'r fenter 'WOW living streets' fel ysgol gyfan, gyda'r nod o gynyddu lefelau gweithgareddau sy'n annog disgyblion i gerdded, beicio, sgwtera, parcio a chamu i'r ysgol er mwyn lleihau nifer y cerbydau yng nghyffiniau'r ysgol, a thrwy hynny, wella ansawdd yr aer. Mae'r pedwar Llysgennad Efydd Blwyddyn 6 yn casglu data ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 bob dydd ar I-pad, gyda'r Staff yn casglu data ar gyfer yr 14 dosbarth arall yn yr ysgol. Yn ôl data'r disgyblion ar gyfer Chwefror 2024, roedd 9% yn defnyddio sgwteri, 8% yn defnyddio parcio a chamu, 3% yn cerdded neu'n beicio, gan ddangos cyfradd o 21% o deithiau egnïol dros y mis. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 12% ym mis Mawrth, gyda 33% ar deithiau egnïol yn gyffredinol, lle roedd 15% yn defnyddio parcio a chamu (cynnydd o 6%), 8% yn sgwtera, 6% yn cerdded neu'n beicio, a oedd wedi dyblu ers mis Mawrth! Byddwn yn parhau i fonitro'n fisol gyda Mr Phillips a'r Llysgenhadon Efydd. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr allyriadau sy'n cael eu rhyddhau i'r aer y tu allan i'r ysgol, sy'n dylanwadu ar y gymuned hefyd.
Sut ydych chi wedi mesur llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Ym mis Chwefror 2024 roedd 9% yn defnyddio sgwteri, 8% yn defnyddio parcio a chamu, 3% yn cerdded neu'n beicio, gan ddangos cyfradd o 21% o deithiau egnïol dros y mis. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 12% ym mis Mawrth, gyda 33% ar deithiau egnïol yn gyffredinol, lle roedd 15% yn defnyddio parcio a chamu (cynnydd o 6%), 8% yn sgwtera, 6% yn cerdded neu'n beicio, a oedd wedi dyblu ers mis Mawrth! Byddwn yn parhau i fonitro'n fisol gyda Mr Phillips a'r Llysgenhadon Efydd. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar yr allyriadau sy'n cael eu rhyddhau i'r aer y tu allan i'r ysgol, sy'n dylanwadu ar y gymuned hefyd.
Mae pob dosbarth wedi cynyddu awyru trwy agor ffenestri yn y dosbarth.
Camau nesaf:
- Defnyddio llais y plant a'r ysgol i annog penderfyniadau lleol a chenedlaethol fydd yn gwneud gwelliannau i ansawdd aer ar draws eich ardal leol, cyfweld â'r Pennaeth, ac ysgrifennu at ein Aelod Seneddol lleol a'r Aelod Cynulliad dros Blant a Phobl Ifanc a'r Amgylchedd.
- Y Garfan Ansawdd Aer i roi gwybod i'r disgyblion am y prosiect mewn gwasanaeth ysgol a rhoi sylw i'r angen i wella ansawdd aer er mwyn gwella eu hiechyd a lleihau nifer y ceir o amgylch yr ysgol.
- Ymgyrch hysbysebu i wella ansawdd aer.
- Parhau i ddyfarnu tystysgrifau a bathodynnau ar gyfer mwy o weithgarwch gyda menter WOW, gan ymgorffori arferion llygredd isel ymhlith cenhedlaeth y dyfodol trwy roi cyngor ar fynd i'r afael â llygredd aer i ddisgyblion a'u teuluoedd.