Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin

Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin (Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin gynt) yn cynnwys mudiadau megis y Cyngor, llywodraeth a chyrff bywyd gwyllt heb fod yn rhai llywodraeth, elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddol - oll yn gweithio gyda’i gilydd i ofalu am a chyfoethogi bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin.

 

Partneriaeth Natur Sir Gâr. Natur Sir Gaerfyrddin. Mae'r tirweddau Sir Gaerfyrddin - o'r ucheldiroedd i'r arfordir - yn cynnal amrywiaeth gyfoethog a gynefinoedd a bywyd gwyllt. Gall ffermdir a mannau naturiol sydd wedi'u rheoli'n dda helpu bioamrywiaeth i ffynnu. Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin yn cynnwys sefydliadau lleol, elusennau o gwirfoddolwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i:  Amddiffyn ac adfer cynefinoedd - o'r arfordir i'r ucheldiroedd. Cefnogi bywyd gwyllt ledled y dir drwy adfer a chysylltu cynefinoedd. Mynd i'r afael â bygythiadau i fywyd gwyllt fel y gall natur ffynnu. Monitro rhannu gwybodaeth ac ysbrydoli cymunedau i weithredu. Gall pawb wneud rhywbeth dros natur. Ymunwch â ni i helpu amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin  i ffynnu.

 

Mae’r grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn a chaiff ei drefnu gan Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor. Mae gwaith y partneriaid yn canolbwyntio ar weithredu sy’n ceisio gofalu am a chyfoethogi bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin, naill ai trwy reoli tir neu gamau i helpu rhywogaethau penodol. Maent oll yn codi ymwybyddiaeth am rywogaethau a chynefinoedd y sir a’r materion sy’n effeithio bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Trwy rannu profiad, gwybodaeth ac arfer gorau, mae prosiectau partner yn datblygu o’r cyfarfodydd hyn. Ceisir defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd yn y grŵp er mwyn cyfrannu at y gwaith o weithredu deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol ar lefel leol. Cynhyrchir adroddiad blynyddol bob blwyddyn i amlygu gwaith y partneriaid.

Cynhyrchodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Adferiad Natur sy’n esbonio sut fydd Cymru’n cyflawni ymrwymiadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol a Strategaeth Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd er mwyn atal y dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yna gwrthdroi’r dirywiad hwnnw.

Yn Sir Gaerfyrddin bwriedir datblygu Cynllun Adferiad Natur Sir Gaerfyrddin yn seiliedig ar amcanion y cynllun cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bennaf gyfrifol am y dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i gefnogi adferiad:

  • Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth ymhob agwedd ar wneud penderfyniadau ar bob lefel;
  • Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o’r pwys mwyaf a gwella eu rheolaeth;
  • Cryfhau cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd dirywiedig a chreu cynefinoedd newydd;
  • Mynd i’r afael â’r pwysau mwyaf ar rywogaethau a chynefinoedd;
  • Gwella ein tystiolaeth, dealltwriaeth a monitro; a
  • Threfnu fframwaith llywodraethant a chefnogi cyflawni ar waith

Bydd y cynllun hwn yn elwa o, a gobeithio’n cyfrannu at, y Datganiad Ardal lleol a gynhyrchir gan Gyfoeth Naturiol Cymru i greu pecyn gwaith fydd yn cyflwyno’r dystiolaeth dros, a disgrifio sut, fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu sicrhau adnoddau naturiol a reolir yn gynaliadwy ar lefel leol.

Bydd Cynllun Adferiad Natur Sir Gaerfyrddin yn disodli’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol blaenorol.