Cyflwyno Gwelliannau Diogelwch ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phen-sarn
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/08/2026
Mae Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn bwrw ymlaen â phecyn o welliannau diogelwch ffordd ar hyd yr A48 rhwng Cross Hands a Phen-sarn, ar ôl nodi risgiau gwrthdrawiadau a phryderon diogelwch ffordd ar y coridor trafnidiaeth pwysig hwn.
Mae'r A48 yn gyswllt strategol allweddol rhwng traffordd yr M4 a Gorllewin Cymru. Mewn astudiaethau trafnidiaeth a gynhaliwyd drwy broses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), nodwyd bod nifer o gyffyrdd a nodweddion ffordd sy'n anaddas ar gyfer natur gyflym y llwybr ac sydd â'r potensial i gyfrannu at wrthdrawiadau. Tynnwyd sylw yn y data gwrthdrawiadau a'r adborth rhanddeiliaid yn benodol at bryderon cysylltiedig â symudiadau troi sy'n croesi'r ffordd gerbydau, a hynny mewn sawl man ar hyd y coridor.
Mae'r mesurau arfaethedig wedi'u datblygu i fynd i'r afael â'r risgiau hyn a gwella diogelwch i'r holl ddefnyddwyr ffordd. Roedd yr Adolygiad Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon diogelwch ar hyd y coridor ac yn argymell symud yr elfennau o'r prosiect a ganolbwyntiai ar ddiogelwch yn eu blaenau.
Pam mae angen y gwelliannau?
Oherwydd bod y gwaith dadansoddi a wnaed fel rhan o'r astudiaeth wedi nodi nifer o broblemau trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys:
- Pryderon diogelwch ffordd ynghylch symudiadau sy'n croesi'r ffordd gerbydau.
- Cyffyrdd fyddai ar eu hennill o'u gwella.
- Nifer o gilfannau sy'n is na'r safon.
- Seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus y mae cyfyngiadau ar ei ddiogelwch a'i gyfleustra.
- Darpariaeth annigonol ar gyfer croesfannau Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Prif amcan y cynllun yw lleihau risg gwrthdrawiadau yn y dyfodol a chynnal swyddogaeth strategol coridor yr A48 ar yr un pryd.
Mesurau Diogelwch Arfaethedig
Mae'r pecyn diogelwch yn cynnwys:
- Cau bylchau llain ganol mewn sawl lleoliad lle nodwyd bod symudiadau troi yn risg diogelwch ffordd.
- Newid cyffyrdd i waredu neu gyfyngu ar symudiadau troi i'r dde penodol.
- Cau chwe chilfan sy'n is na'r safon ar hyd y llwybr.
- Gwella arwyddion traffig i gynorthwyo modurwyr â threfniadau mynediad diwygiedig.
Mae mesurau penodol yn cynnwys:
- Addasiadau yn Llanddarog i gyflwyno symudiad troi i'r dde i fysiau yn unig o'r ffordd gerbydau tua'r dwyrain a chyfyngu ar droi i'r dde allan o'r gyffordd.
- Cyfyngiadau ar droi i'r dde ym Mhantyffynnon.
- Cau bylchau llain ganol yn Llanarthne, Foelgastell a Maes-y-bont.
- Newid cyffyrdd presennol i gefnogi symudiadau traffig mwy diogel.
Ffocws ar Atal
Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i leihau'r tebygolrwydd o wrthdrawiadau yn y dyfodol, trwy roi sylw i leoliadau lle mae symudiadau sy'n croesi'r ffordd yn digwydd ar ran gyflym ohoni. Trwy gael gwared ar bwyntiau gwrthdaro a symleiddio penderfyniadau gyrwyr mewn lleoliadau allweddol, bwriad y prosiect yw darparu amgylchedd mwy diogel i fodurwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill.
Mae'r cynigion wedi'u datblygu yn unol â'r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd, sef y safon ddylunio genedlaethol ar gyfer cefnffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwelliannau i Ddiogelwch Cilffyrdd
Fel rhan o'r cynllun, bydd chwe chilfan a nodwyd yn rhai is na'r safon yn cael eu cau. Roedd yr asesiad yn ystyried y pellter rhwng cilfannau a pha mor agos oeddent i gyffyrdd, er mwyn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn parhau i fod ar gael ar hyd y llwybr wrth wella diogelwch cyffredinol.
Y Cam Nesaf
Er mwyn cau'r bylchau llain ganol a chyfyngu ar rai symudiadau troi a cherbydau, mae'n angenrheidiol yn gyfreithiol i gyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, ac mae'r rhain yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd ac ar gael i'w gweld trwy'r ddolen ganlynol:
Rhaglen Adeiladu
Ar hyn o bryd disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn nhymor yr Hydref/Gaeaf 2026 a chymryd tua phedwar mis, yn dibynnu ar y tywydd. Bydd angen cau lonydd dros dro ar gyfer rhai agweddau ar y gwaith, yn enwedig lle bo gwaith yn digwydd yn y llain ganol. Caiff defnyddwyr ffordd wybod ymlaen llaw am y trefniadau rheoli traffig.
Edrych i’r Dyfodol
Mae prosiect Mesurau Diogelwch yr A48 yn ymateb wedi'i dargedu i hanes gwrthdrawiadau ac i'r problemau diogelwch a nodwyd ar hyd y coridor. Bwriad y gwelliannau yw gwneud y llwybr yn fwy diogel, yn fwy gwydn ac yn fwy addas i anghenion y rhai sy'n teithio rhwng Cross Hands a Phen-sarn bob dydd.
