Rhieni Gyrwyr Newydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

Rhoi eich plentyn ar ben ffordd i yrru'n ddiogel

Fel rhiant, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi taith eich plentyn wrth iddo ddod yn yrrwr. Mae ein cwrs Rhieni Gyrwyr Newydd wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r adnoddau i chi i helpu'ch plentyn i lywio'r broses o ddysgu gyrru ac aros yn ddiogel ar y ffordd ar ôl pasio’r prawf gyrru.

Cynnwys y Cwrs:

  • Sut y gallwch chi helpu gyrrwr sy'n dysgu: Dysgwch sut i gefnogi proses ddysgu'ch plentyn yn effeithiol, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i roi adborth adeiladol a magu hyder y tu ôl i'r olwyn.
  • Goruchwylio Gyrrwr sy'n Dysgu: Dysgwch am y rheolau a'r canllawiau ar gyfer goruchwylio dysgwr yn ystod sesiynau ymarfer, gan sicrhau bod y ddau ohonoch yn dilyn yr un rheolau a rheoliadau.
  • Cael Cymorth a Chyngor: Gallwch gael gwybodaeth ar ble i droi am gymorth ac arweiniad ychwanegol, gan gynnwys adnoddau ar-lein.
  • Cyngor am Ddiogelwch Ffyrdd: Cael cipolwg gwerthfawr ar sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel ar y ffordd ar ôl pasio'r prawf.

Beth fyddwch chi'n ei gael o'r cwrs:

  • Gwell dealltwriaeth am sut i gefnogi proses ddysgu eich plentyn
  • Awgrymiadau ymarferol a chyngor ar oruchwylio gyrrwr sy'n dysgu
  • Hyder yn eich gallu i ddarparu arferion gyrru diogel ac effeithiol
  • Y wybodaeth i allu cefnogi'ch plentyn i fod yn yrrwr mwy diogel ar ôl pasio’r prawf.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i helpu i roi eich plentyn ar ben ffordd i yrru'n ddiogel. Cofrestrwch nawr ar gyfer ein cwrs "Rhieni Gyrwyr Newydd" a chymerwch y cam cyntaf tuag at helpu'ch plentyn i ddod yn yrrwr cyfrifol.

Faint mae'r cwrs yn ei gostio?

Mae'r cwrs ar gael ar hyn o bryd i bobl sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin neu sy'n defnyddio ffyrdd ein sir ac mae'n RHAD AC AM DDIM.

Argaeledd cyrsiau

  • Dydd Mercher 16 Hydref 2024, am 6:30pm (Ar-lein)
  • Dydd Llun 11 Tachwedd 2024, am 6:30pm (Ar-lein)

Bydd cyrsiau'n cael eu cyflwyno drwy Microsoft Teams. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'r cwrs a'r ddolen i ymuno yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn ystod wythnos eich cwrs. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at diogelwchffyrdd@sirgar.gov.uk

 

Gwneud cais am le ar gwrs Rhieni Gyrwyr Newydd