Cyflwyniad
Mae Sir Gaerfyrddin yn ardal wledig yn bennaf lle mae amaethyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r economi leol. Gan mai hon yw’r sir ail fwyaf yng Nghymru mae gennym rwydwaith priffyrdd eang sy’n ymestyn dros 3500km o ffyrdd ac mae llawer o’r rhwydwaith yn darparu mynediad pwysig drwy gysylltu trefi marchnad, pentrefi ac aneddiadau gwledig.
Mae cydweithio â thirfeddianwyr, a’r gymuned ffermio yn enwedig, yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth gynnal rhwydwaith priffyrdd hygyrch a diogel a’n bod yn diogelu cynefinoedd pwysig.
Mae hyn yn helpu i esbonio rolau a chyfrifoldebau’r Awdurdod Priffyrdd, Cyngor Sir Caerfyrddin, a thirfeddianwyr cyfagos ynglŷn ag ystod o faterion cysylltiedig gan gynnwys diogelwch f fyrdd, perthi a choed wrth ymyl y ffordd, ymylon y briffordd, ffosydd a dyfrffosydd wrth ymyl y ffordd, mwd ar y briffordd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus.