Ffosydd a Sianeli wrth Ymyl y Ffordd

Mae draenio da yn hanfodol i’r briffordd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mwy o ddibyniaeth ar ffosydd i gludo dŵr wyneb. Cyfrifoldeb tirfeddianwyr cyfagos yw ffosydd wrth ymyl y ffordd fel arfer er y gallai dŵr oddi ar y briffordd ddraenio i mewn iddynt ac mae dyletswydd cyfraith gwlad ar dirfeddianwyr cyfagos i’w cynnal a’u cadw.

Cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw dyfrffosydd (sianeli) sy’n torri trwy ymyl y ffordd i’r ffos. Mae gennym raglenni ar waith i arolygu a chynnal y rhain ond gellir amharu ar eu perfformiad os nad yw’r ffos sy’n draenio’r dŵr yn cael ei chynnal a’i chadw mewn modd priodol. Dylai tirfeddianwyr cyfagos sicrhau nad yw dŵr wyneb yn cael ei ollwng ar y briffordd ac os yw draeniad y briffordd yn effeithio ar dir cyfagos cysylltwch â’r Adran Priffyrdd.