Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau a chilffyrdd yn briffyrdd cyhoeddus hefyd ac mae ein tîm hawliau tramwy cyhoeddus yn cadw cofnod o’r rhain (2400km). Mae’n ddyletswydd arnynt i ddiogelu ac arddel hawl y cyhoedd i’w defnyddio. Dylai tirfeddianwyr sicrhau nad yw hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu rhwystro, eu bod yn rhydd rhag llystyfiant sydd wedi gordyfu a’u bod yn glir o gnydau.

Cyfrifoldeb y tirfeddianwyr hefyd yw sicrhau bod sticlau a gatiau ar lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau yn cael eu cynnal mewn cyflwr diogel a derbyniol ar gyfer cerddwyr a marchogion.