Mwd ar y Briffordd
Gall mwd a baw sy’n cael ei ollwng ar y briffordd achosi damweiniau, rhwystro draeniau a chwteri, a bod yn niwsans i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae’n drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i ollwng mwd neu faw ar y briffordd a dylid gofalu na fydd hyn yn digwydd.
Lle bo mwd ar y briffordd dylid ei lanhau cyn gynted â phosibl a dylid rhoi arwyddion rhybuddio hyd nes y bydd y ffordd yn lân (cofiwch nad yw arwyddion rhybudd ohonynt eu hunain yn atal atebolrwydd dros ddamweiniau sy’n digwydd). Mae hyn hefyd yn berthnasol lle mae anifeiliaid yn defnyddio’r briffordd. Os oes angen, bydd y Cyngor Sir yn cymryd camau i lanhau’r priffyrdd ac yn adennill ein costau o dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
