Perthi a Choed

Cyfrifoldeb y tirfeddianwyr cyfagos yw perthi a choed terfyn. Os nad yw coed a pherthi yn cael eu rheoli’n gywir gallant amharu ar ddiogelwch f fyrdd, yn enwedig ger cyffyrdd neu droeon lle gallant beryglu gwelededd hanfodol.
Gall hyd yn oed dyfiant ysgafn achosi problemau i gerddwyr a beicwyr. Mae’n rhaid gofalu nad yw perthi yn cael eu torri yn ystod tymor nythu adar oni bai bod pryder mawr o ran diogelwch.
Dylid gwaredu unrhyw wastraff sy’n deillio o’r gwaith torri perthi er mwyn osgoi peryglu defnyddwyr y ffordd ac yn enwedig beicwyr ac anifeiliaid. Dylid gofalu hefyd nad achosir difrod i unrhyw ffosydd a dyfrffosydd, ac ni ddylid gadael i wastraff rwystro sianeli draenio.
Mae’r Ddeddf Priffyrdd yn rhoi grym i’r Cyngor Sir i gyflwyno hysbysiad i dirfeddianwyr ynglŷn â thorri perthi neu goed sydd wedi gordyfu a gellir adennill costau os oes angen, ond byddai’n well gennym osgoi gwneud hyn a gweithio gyda thirfeddianwyr lle bynnag y bo’n bosibl. Dylid cytuno ar unrhyw waith torri coed â Chyfoeth Naturiol Cymru.