Y Gyfraith
Gallai gyrwyr cerbydau, contractwyr a ffermwyr sy'n gadael mwd ar y ffordd orfod ateb am gyflawni amryw droseddau. Nid yw'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn ddatganiad cyflawn o'r gyfraith nac o'ch cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd posibl.
Mae gan yr Heddlu a'r Adran Briffyrdd ystod o bwerau ar gael iddynt; yn bennaf Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Traffig Ffyrdd 1988.
Mae Adran 137 Deddf Priffyrdd 1980 yn dweud “If a person, without lawful authority or excuse, in any way wilfully obstructs the free passage along a highway he is guilty of an offence”. Dywed Adran 148 Deddf Priffyrdd 1980 “If without lawful authority or excuse a person deposits anything whatsoever on a highway to the interruption of any user of the highway he is guilty of an offence”.
Mae Adran 149 o'r Ddeddf Priffyrdd yn datgan "if anything is deposited on the highway so as to constitute a nuisance/danger the Highway Authority can require the person who put it there to remove it forthwith”. Mae mwd yn achosi sgidio ac felly mae'n beryg ac yn niwsans.
Mae Adran 161 Deddf Priffyrdd 1980 yn datgan "“If a person, without lawful authority or excuse, deposits anything whatsoever on a highway in consequence of which a user of the highway is injured or endangered, that person is guilty of an offence”. Yn ogystal, mae Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn ymdrin â sefyllfaoedd lle mae cerbyd sy'n cael ei yrru'n fecanyddol yn cael ei yrru'n beryglus ar ffordd. Gall gyrru'n beryglus gynnwys gyrru cerbyd mewn cyflwr a allai beri perygl i eraill.
Mae'r gosb am y troseddau hyn yn amrywio o ddirwyon i gyfnod yn y carchar.