Ymylon Ffyrdd
Cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r ymylon ffyrdd glaswelltog fel arfer. Mae gennym rhaglen ar waith ar gyfer torri’r ymylon ffyrdd yn ystod misoedd yr haf sydd wedi’i chynllunio i gynnal diogelwch f fyrdd, sicrhau gwelededd, darparu mannau i gerddwyr allu camu oddi ar y ffordd gerbydau os nad oes llwybrau troed ac i atal rhywogaethau dieisiau rhag ymsefydlu.
Mae ein gwaith cynnal a chadw ymylon ffyrdd wedi’i ddatblygu hefyd i ddiogelu cynefinoedd pwysig drwy dorri rhai ardaloedd yn gynharach neu’n hwyrach yn y tymor er mwyn galluogi rhywogaethau brodorol i ffynnu.