Rheoliadau adeiladu - datganiad ariannol

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol yn unol â Rheoliadau Adeiladu (Ffioedd Awdurdodau Lleol) 2010 gyhoeddi datganiad ariannol blynyddol sy'n ymwneud â'u Cyfrif Rheoliadau Adeiladu ar sail codi tâl ac fel arall. Mae'n rhaid i'r datganiad gael ei gymeradwyo gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fel swyddog adran 151 Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Yr amcan cyfrifyddu pennaf yw bod y taliadau a godir gan awdurdod am gyflawni ei wasanaeth rheoliadau adeiladu am dâl, o 'gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall', yn 'cyfateb mor agos â phosibl i'r costau yr eir iddynt.'