Prynwch efo Hyder

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/07/2024

Mae Prynwch efo Hyder yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi'i gymeradwyo gan Safonau Masnach.  Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol oddeutu 20 mlynedd yn ôl gan bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus' yn ogystal â dyhead cyffredinol i godi'r safonau ar draws sectorau masnach penodol.

Mae'r cynllun yn rhoi rhestr i gwsmeriaid o fusnesau lleol, sydd wedi ymrwymo i fasnachu'n deg. Mae pob busnes ar y rhestr wedi bod yn destun nifer o wiriadau manwl cyn cael ei gymeradwyo fel aelod o'r cynllun.

Sut ydw i'n dod o hyd i fusnes Prynu gyda Hyder?

Gellir gweld y rhestr lawn o fusnesau cofrestredig ar wefan Prynu efo Hyder.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf gwyn am fusnes Prynu gyda Hyder?

Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â'r busnes dan sylw. I gael cyngor ar sut i wneud hyn, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Os na allwch ddatrys y gŵyn, gallwch chi roi gwybod i ni drwy'r ffurflen Prynu gyda Chwyn.