Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro a Chadeirydd y Bwrdd
Mae Sir Gâr yn un o 284 o leoedd ledled y DU i gael hyd at £20 miliwn dros ddeng mlynedd fel rhan o Raglen Balchder Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n ceisio datblygu cymunedau cryfach, creu lleoedd ffyniannus a grymuso pobl i gymryd rheolaeth yn ôl. Yn Sir Gâr, cymdogaeth o fewn Llanelli yw'r ardal darged.
Er mwyn cyflawni'r Rhaglen Balchder Bro, mae Byrddau Cymdogaeth yn cael eu sefydlu ym mhob cymdogaeth a ariennir ledled y wlad. Bydd pob un yn cael ei arwain gan Gadeirydd annibynnol, sef rhywun sy'n gallu dod â chymunedau at ei gilydd i rannu eu syniadau mewn ffordd agored a chydweithredol.
Prif rôl y Cadeirydd yw bod yn hyrwyddwr dros ei le a chynrychioli ysbryd cymunedol y rhaglen. Dylai fod gan y Cadeirydd gysylltiad dwfn â'i ardal a gall fod yn newydd i'r math hwn o waith. Yr hyn sydd bwysicaf yw ymrwymiad i weld newid a gwella bywydau'r rhai yn ei gymuned.
Mae'r Rhaglen Balchder Bro yn rhaglen newydd sy'n cael ei hariannu gan y llywodraeth ac sy'n ceisio rhoi pŵer i'r bobl leol yn rhai o'r cymdogaethau sydd â'r angen mwyaf yn y DU, fel y gallan nhw benderfynu sut i adfywio eu hardal leol. Mae'n rhoi rheolaeth o £20m i gymunedau dros y 10 mlynedd nesaf, i'w wario ar brosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymdogaethau maen nhw'n byw ynddyn nhw.
Mae'r rhaglen yn:
- Hirdymor: yn darparu sicrwydd cyllid dros 10 mlynedd.
- Hyblyg: yn caniatáu i gymunedau wario eu cyllid ar y prosiectau sydd bwysicaf iddyn nhw, a hynny mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw.
- Dan arweiniad y gymuned: yn rhoi'r bobl leol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, gyda thrigolion yn dweud eu dweud am ddyfodol eu cymdogaeth.
- Cefnogol: yn grymuso pobl i feithrin y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni newid yn eu cymunedau.
Nod y rhaglen Balchder Bro yw adfywio'r cymdogaethau sydd â'r angen mwyaf gan ganolbwyntio ar ddaearyddiaeth tua 15,000 o drigolion. Yr egwyddor arweiniol yw bod y cyllid hirdymor wedi'i fwriadu i gefnogi cymunedau i lunio eu lleoedd, a blaenoriaethu cyllid, a hynny'n seiliedig ar ymgysylltiad cymunedol helaeth mewn perthynas â thri nod craidd:
- Datblygu cymunedau cryfach
- Creu lleoedd ffyniannus
- Grymuso pobl i gymryd rheolaeth yn ôl
Mae tref Llanelli wedi'i dewis fel cymdogaeth Sir Gâr gan dderbyn hyd at £20m o gyllid dros 10 mlynedd fel rhan o'r rhaglen Balchder Bro. Mae hyn yn cwmpasu'r holl wardiau canlynol neu rannau ohonyn nhw: Tyisha, Glanymor, Bigyn, Lliedi ac Elli.
Er mwyn cyflwyno'r rhaglen Balchder Bro yn Llanelli, mae Bwrdd Cymdogaeth yn cael ei sefydlu. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth yn aelod annibynnol o'r gymuned ac yn rhywun sy'n gallu hyrwyddo'r trigolion lleol a meithrin eu syniadau i arwain menter cymunedau yn gyntaf yn effeithiol. Mae'n rhaid bod gan y cadeirydd gysylltiad dwfn â'r ardal ac angerdd am wireddu cyllid sylweddol a fydd o fudd i'r gymuned leol. Bydd yn rhaid i'r Bwrdd Cymdogaeth weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gyflwyno cynllun i Lywodraeth y DU ynglŷn â sut maen nhw'n bwriadu defnyddio'r cyllid, ac mae rôl y Cadeirydd yn allweddol i sicrhau bod hyn wirioneddol yn adlewyrchu anghenion y gymuned.
Bydd y Cadeirydd yn gweithredu fel cynullydd rhagweithiol a dibynadwy sydd â'r canlynol yn wir amdano:
- Mae ganddo gysylltiadau dwfn â'i gymuned ac mae wedi ymrwymo i wneud y lle yn fan sydd hyd yn oed yn well i fyw ynddo.
- Mae'n gallu dod â lleisiau gwahanol at ei gilydd o bob rhan o'r gymuned, i lunio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol y lle.
- Mae ganddo hygrededd lleol a bydd yn cael ei barchu fel arweinydd – hyd yn oed os mai dyma ei rôl arwain gyntaf.
- Bydd yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod trafodaethau'r Bwrdd yn gydweithredol.
- Mae'n fedrus o ran dod o hyd i gonsensws, llywio gwrthdaro yn bwyllog ac yn ddiduedd, a byth yn caniatáu i ego amharu ar gynnydd.
- Mae'n dod â grwpiau cymunedol at ei gilydd ac yn blaenoriaethu ymgysylltu â'r gymuned fel rhan ganolog y rhaglen.
- Mae'n glir am ei fylchau gwybodaeth ei hun ac yn ystyried sut mae cyfansoddiad y Bwrdd yn ategu hyn.
- Mae'n meddwl yn greadigol am atebion i broblemau a ffyrdd o ddenu lleisiau cymunedol.
- Mae'n gweithredu fel wyneb cyhoeddus ac yn cynrychioli'r Bwrdd yn allanol, ynghyd â dod â ffigurau o wahanol duedd wleidyddol at ei gilydd.
Ni ddylai'r Cadeirydd:
- Rheoli penderfyniadau neu ddatblygu criwiau; dylai'r Bwrdd gael ystod o leisiau, gan gynnwys rhai sy'n wahanol i leisiau'r Cadeirydd.
- Ceisio gwthio agendâu personol – mae hyn yn ymwneud â'r hyn y mae'r gymuned am ei gael.
- Bod yr unig benderfynwr neu arbenigwr yn yr ystafell.
- Bod yr arweinydd cyflawni o ddydd i ddydd: mae hon yn rôl strategol.
- Yn gynrychiolydd etholedig, fel Aelod Seneddol, Aelod o'r Senedd, Cynghorydd lleol.
Sgiliau a nodweddion Cadeirydd da:
- Teg a chytbwys, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed
- Sgiliau da o ran hwyluso sgyrsiau, yn enwedig pan fydd gwahaniaeth barn yn dod i'r amlwg
- Yn agored i ddysgu, adborth a datblygu, gyda diddordeb mewn mentora a gwella sgiliau eraill
- Croesawgar, agored ac yn gwrando'n ofalus ar eraill
- Ddim yn cynhyrfu dan bwysau ac yn rheoli gwrthdaro'n dda
- Mae ganddo amser i flaenoriaethu'r rôl
- Arwain y gwaith o recriwtio aelodau eraill y Bwrdd Cymdogaeth, gan gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin a'r AS lleol wrth ddewis aelodau terfynol y Bwrdd.
- Arwain a chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Cymdogaeth.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro'r Cynllun Balchder Bro – sef gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer lle, a fydd yn cynnwys cynllun buddsoddi manwl ar gyfer y cylch buddsoddi cyntaf o 4 blynedd.
- Gweithio'n greadigol ac yn rhagweithiol gyda thîm yr AS a'r Cyngor i sicrhau ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon â'r cyhoedd, gan sicrhau bod lleisiau ar draws y ddemograffig yn cael eu clywed.
- Gweithio ar y cyd â phreswylwyr, grwpiau cymunedol, partneriaid, a gwasanaethau lleol, gan sicrhau ymgysylltiad cymunedol helaeth ac ystyrlon wrth ddatblygu'r cynllun Balchder Bro ac ar ôl hynny.
- Hyrwyddo gweledigaeth Balchder Bro ac annog cyfranogiad cymunedol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dangos y meini prawf canlynol:
- Cymhelliant ac ymrwymiad/argaeledd
- Dealltwriaeth o faterion cymunedol lleol
- Profiad o gyfranogi cymunedol, gwirfoddoli, neu weithgarwch yn y gymdogaeth
- Profiad o gadeirio cyfarfodydd neu hwyluso trafodaethau grŵp
- Sgiliau cryf o ran cyfathrebu ac ymwneud ag eraill
- Gallu arwain, ysgogi a meithrin consensws
- Gallu cydweithio â phartneriaid a phreswylwyr
Bydd y rôl fel arfer yn cynnwys mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Cymdogaeth, amser paratoi, a gweithgareddau ymgysylltu ychwanegol lle bo angen. Mae disgwyl y bydd ymrwymiad amser o 2 ddiwrnod y mis o leiaf. Mae'n debygol y bydd chwe mis cyntaf y rhaglen yn gofyn am ymrwymiad mwy dwys wrth i'r Bwrdd gael ei sefydlu ac wrth i'r gwaith ymgysylltu â'r gymuned ddechrau. Yng nghyfnodau cynnar y rhaglen, bydd hefyd angen i'r Cadeirydd ymrwymo amser i gysylltu â'r AS lleol a'r CSC i gefnogi'r gwaith o sefydlu'r Bwrdd a datblygu cynllun Balchder Bro lleol.
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth yn cael cymorth parhaus gan y Cyngor fel y Corff Atebol am y cyllid, a hefyd yr AS lleol. Bydd y Cadeirydd yn cael cymorth o ran y broses o recriwtio rhanddeiliaid a thrigolion lleol i'r Byrddau, a thrwy gydol y broses o ddatblygu blaenoriaethau strategol ar gyfer pob ardal. Bydd y Cyngor hefyd yn darparu cymorth ysgrifenyddol a llywodraethu i'r Bwrdd.
Mae hon yn rôl wirfoddol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gan Fyrddau Cymdogaeth yr arweinyddiaeth gywir, ac i agor y swydd i ymgeiswyr na fyddent fel arall yn gallu ymgeisio, gellir darparu taliad sylfaenol bach i dalu am amser y Cadeirydd os oes angen. Bydd treuliau rhesymol i gyflawni rôl y Cadeirydd hefyd yn cael eu talu.
Bydd y Bwrdd yn dod â thrigolion, busnesau lleol, ymgyrchwyr ar lawr gwlad, cynrychiolwyr gweithle, arweinwyr ffydd a chymunedol at ei gilydd, yn ogystal â'r rhai sydd â chysylltiad dwfn â'u hardal. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol a'r AS lleol gymeradwyo'r dewis terfynol o aelodau'r Bwrdd, a fydd yn cynnwys trigolion lleol. Mae'n rhaid i Fyrddau Cymdogaeth hefyd gynnwys yr AS lleol perthnasol ac o leiaf un cynghorydd ward. Dylai'r rhain fod o dan arweiniad y preswylwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn gynrychioliadol o'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae'n rhaid i'r Byrddau sicrhau bod mwy o drigolion a phobl sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal ar y Bwrdd nag y mae cynrychiolwyr etholedig.
Er mwyn annog Byrddau amrywiol a chynhwysol, bydd y cadeirydd am ystyried aelodaeth o'r grwpiau canlynol:
- Arweinwyr cymunedol, trefnwyr ac ymgyrchwyr, fel elusennau lleol, grwpiau ffydd, grwpiau cymunedol, fforymau cymdogaeth, grwpiau ieuenctid neu glybiau cymdeithasol
- Busnesau lleol a mentrau cymdeithasol, megis cyflogwyr lleol allweddol, yr Ardal Gwella Busnes neu'r Siambr Fasnach leol, darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig neu gwmnïau cydweithredol
- Sefydliadau diwylliannol, celfyddydol, treftadaeth a chwaraeon, fel clybiau chwaraeon lleol neu sefydliadau chwaraeon, grwpiau treftadaeth lleol neu amgueddfeydd a mannau celfyddydol lleol
- Asiantaethau cyhoeddus a sefydliadau angori, megis ysgolion lleol, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, darparwyr gofal iechyd lleol, neu gynrychiolwyr perthnasol o awdurdodau lleol
Sylwer: Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a bydd aelodaeth yn dibynnu ar y cyd-destun lleol.
Cyflwynwch ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb a CV erbyn 26 Mai 2026 i balchderbro@sirgar.gov.uk
