Cwestiynau Cyffredin am y Rhaglen Raddedigion
Diweddarwyd y dudalen ar: 05/06/2026
Os byddwch chi'n llwyddiannus, byddwch yn cael gwahoddiad i sesiwn hanner diwrnod, wyneb yn wyneb.
Byddwch yn cymryd rhan mewn:
- Ymarferion grŵp a senario-seiliedig
- Gweithgareddau datrys problemau
- Asesiad o'r Iaith Gymraeg
Mae'n brofiad cefnogol a rhyngweithiol - ac yn gyfle gwych i gwrdd â ni a dysgu mwy am y rhaglen.
Os byddwch chi'n llwyddiannus yn y Diwrnod Recriwtio, byddwch chi'n cael gwahoddiad i fynychu cyfweliad gyda'r rheolwr recriwtio.
Bwriad y sgwrs hon yw ein helpu ni i ddod i'ch adnabod chi'n well, a dod i wybod am eich profiad, eich uchelgeisiau, a'r hyn y gallech ei gyfrannu i'r rôl a'r sefydliad.
Yn ystod y cyfweliad, byddwch chi'n:
- Cwrdd â'r rheolwyr
Byddwch chi'n siarad yn uniongyrchol â'r rheolwr y gallech fod yn gweithio gyda, gan roi cyfle i chi ddysgu mwy am y rôl a gofyn cwestiynau.
- Ateb cwestiynau sy'n ymwneud â'r rôl
Byddwn ni'n gofyn cwestiynau am eich sgiliau, eich profiad, a sut y byddech chi'n mynd i'r afael â sefyllfaoedd sy'n berthnasol i'r rôl.
- Dangos ymddygiadau allweddol
Byddwch chi'n cael cyfle i rannu enghreifftiau sy'n dangos sut rydych chi'n gweithio, yn datrys problemau, ac yn cydweithio ag eraill.
- Chwilio am yr hyn sy'n eich tanio
Byddwn ni eisiau gwybod beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen a'ch llwybr gyrfa. Byddwn ni'n eich cefnogi i deimlo'n barod ac yn rhoi'r cyfle i chi fod ar eich gorau trwy gydol y broses.
Ar ôl eich cyfweliad, byddwn ni'n adolygu'ch perfformiad yn ofalus yn seiliedig ar bob cam o'r broses.
Byddwn ni'n edrych ar eich cais, eich cyfranogiad yn y Diwrnod Recriwtio, a'ch cyfweliad i greu darlun llawn o'ch cryfderau, eich potensial, a pha mor addas ydych chi ar gyfer ein rôl a'n sefydliad.
Sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau
Rydyn ni'n asesu pob ymgeisydd yn erbyn yr un meini prawf, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- Y modd y gwnaethoch ddangos yr ymddygiadau allweddol rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw
- Eich potensial i ddatblygu a llwyddo yn y rôl
- Eich cymhelliant a pha mor addas ydych chi o safbwynt ein gwerthoedd
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y broses yn deg, yn gyson, ac yn canolbwyntio ar botensial - nid dim ond profiad.
Cael gwybod am y canlyniad
Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais cyn gynted â phosibl.
Os byddwch chi'n llwyddiannus, byddwn ni'n:
- Cysylltu â chi i gadarnhau eich cynnig
- Rhoi manylion am y rôl, y dyddiadau dechrau, a'r camau nesaf
- Ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych
Adborth a datblygiad
Beth bynnag yw'r canlyniad, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad.
Byddwch chi'n cael adborth i'ch helpu i ddeall eich cryfderau a nodi meysydd ar gyfer twf. Bwriad hyn yw eich cefnogi wrth lunio ceisiadau yn y dyfodol a'ch taith yrfa ehangach.
Mae ein Rhaglen Raddedigion yn agored i raddedigion diweddar a'r rhai fydd yn graddio cyn hir. Caiff gofynion penodol eu hamlinellu ym mhob rôl.
Nac oes, mae ein rolau yn agored i ystod eang o gefndiroedd academaidd. Mae gyda ni fwy o ddiddordeb yn eich potensial a'ch ymddygiad.
Rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n gallu: addasu i newid, cyfathrebu ag eraill a meithrin perthnasoedd a gwasanaethau dwyieithog.
Mae'r broses yn cynnwys cais ar-lein, Diwrnod Recriwtio, cyfweliad a chanlyniad gydag adborth.
Sesiwn hanner diwrnod wyneb yn wyneb gydag ymarferion rhyngweithiol i'ch helpu i ddangos eich potensial a dysgu mwy amdanon ni.
Bydd, mae pob rôl yn cynnwys asesiad o'r iaith Gymraeg fel rhan o'r Diwrnod Recriwtio, sy'n adlewyrchu ein sefydliad dwyieithog.
Gallwch. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg.
Byddwch chi'n cael sesiynau dysgu strwythuredig, mentora, cyfleoedd datblygu, a chefnogaeth barhaus gyda'ch gyrfa.
Byddwch. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu adborth i gefnogi eich datblygiad.
Ein nod yw rhoi'r wybodaeth i chi drwy gydol y broses a byddwn yn eich diweddaru cyn gynted â phosibl ar ôl pob cam.
