Dylunio Eiddo – Lleoliad Profiad Gwaith
Diddordeb mewn pensaernïaeth, gwasanaethau adeiladu, neu reoli adeiladu?
Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol mewn ymgynghoriaeth ddylunio mewnol broffesiynol.

Oherwydd y tarfu ar gasglu ac ailbrosesu cyfarpar rheweiddio, mae ein holl ganolfannau ailgylchu bellach wedi cyrraedd, neu dros, eu capasiti o ran storio oergelloedd, rhewgelloedd a chyfarpar oeri eraill yn ddiogel.
Dydyn ni ddim yn gallu derbyn oergelloedd, rhewgelloedd na chyfarpar oeri eraill mewn unrhyw ganolfan ailgylchu, a hynny ar unwaith, hyd nes y byddwn yn rhoi gwybod fel arall.
Mae'r mesur dros dro hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod ein safleoedd yn dal i fod yn ddiogel ac yn cydymffurfio â rheolau wrth i'r stoc bresennol gael ei chlirio.
Rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra a diolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth. Byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd casgliadau'n ailddechrau.

Mewnwelediad i ddylunio pensaernïol, dylunio gwasanaethau mecanyddol a thrydanol, a mesur meintiau.
Defnyddiwch feddalwedd dylunio i ddatblygu prosiect domestig bach, yna darganfyddwch sut caiff ei drosglwyddo i’r Timau Mesur Meintiau a Fframwaith. Dysgwch am reoli prosiectau, contractau adeiladu, a gweithdrefnau tendro a chaffael.
Gweithio gyda staff profiadol i ddeall rolau mesurwyr meintiau, rheolwyr prosiectau, a thimau fframwaith o fewn y broses ddylunio eiddo.
*Nodyn: Nid yw’r lleoliad hwn yn darparu mynediad i safleoedd adeiladu byw.
Mae’r cyfle hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth, peirianneg, neu adeiladu, gan gynnig profiad dylunio ymarferol a mewnwelediad i lif gwaith prosiectau proffesiynol.
