Gweithdai Fflyd – Lleoliad Profiad Gwaith
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal a chadw cerbydau, peirianneg, neu weithrediadau gweithdy?
Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol o gynnal a rheoli fflyd o gerbydau.

Bydd Neuadd y Sir ar gau i'r holl staff swyddfa ar 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr, er mwyn cynnal profion ar y larwm tân a gwneud gwaith trydanol hanfodol.
Ewch i weld tîm gwasanaeth cwsmeriaid Hwb y Cyngor yn Uned 22, Rhodfa Santes Catrin, SA31 1GA os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu ffoniwch 01267 234567.

Gweithio ochr yn ochr â thechnegwyr medrus i ddysgu am wasanaethu, diagnosis diffygion, ac atgyweirio amrywiaeth o gerbydau fflyd.
Mewnwelediad i weithrediadau gweithdy, gan gynnwys amserlennu, gweithdrefnau diogelwch, a defnyddio systemau diagnostig a chynnal a chadw.
Cynorthwyo a chysgodi staff profiadol, gan gyfrannu at dasgau dyddiol a deall y llif gwaith sy’n cadw cerbydau’n ddiogel ac yn weithredol.
Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn peirianneg fecanyddol, technoleg cerbydau, neu weithrediadau trafnidiaeth, gan gynnig profiad uniongyrchol mewn gweithdy proffesiynol.
